Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Anghenion Tai Pobl Hŷn

Erbyn 2037 bydd nifer y bobl sy’n 65-84 oed yn cynyddu 42% a bydd y rhai sy’n 85 oed ac yn hŷn bron yn dyblu.


Rhagfynegir i nifer y bobl yng Nghaerdydd â dementia gynyddu 67% i’r rhai sy’n 65+ oed ac 85% i’r rhai sy’n 85+ oed rhwng 2015 a 2035. 


Bydd hyn, yn ogystal â nifer cynyddol o achosion o gyflyrau iechyd a symudedd sy’n gysylltiedig ag oedran yn rhoi pwysau mawr ar wasanaethau a chyllidebau Gofal Cymdeithasol. 


Mae’r canfyddiadau gwaith ymchwil yn dangos buddion y ddarpariaeth o dai addas i bobl hŷn i gefnogi annibyniaeth a lleihau’r angen am ofal preswyl, gydag arbedion cysylltiedig i gyllidebau Iechyd a Gofal Cymdeithasol.


Ar gyfartaledd mae cost tai gofal ychwanegol yn 57% o gost wythnosol gofal preswyl.

Mae angen cynyddu buddion ataliol tai cymaint â phosib a gwneud y defnydd gorau o lety arbenigol fel y byddwn yn defnyddio’r adnoddau sydd ar gael yn fwy effeithiol.


Mae’r tai gofal ychwanegol yn gyfyngedig y tu allan i ardaloedd gogleddol a gorllewinol y ddinas. 

Amcangyfrifir bod angen 3,051 o unedau llety pobl hŷn ychwanegol erbyn 2035. Dadansoddir y cynnydd hwn fel a ganlyn: 

- Tai pobl hŷn – 1787 uned (353 rhentu, 1434 perchnogaeth) 

- Tai â gofal – 609 uned (232 rhentu, 377 perchnogaeth) 

- Gofal nyrsio – 655 o welyau 


Mae ansicrwydd am gyflwr tai presennol ar gyfer pobl hŷn yn y sector cymdeithasol a’r cyfleusterau sydd ar gynnig. Mae angen i ni ddeall pa mor dda mae’r eiddo hyn yn gallu diwallu anghenion y boblogaeth hŷn yn y dyfodol.

Roedd 28% o’r bobl a holwyd yn cynllunio symud o fewn y 5 mlynedd nesaf gyda’r rhan fwyaf yn awyddus cael eiddo â 2 ystafell wely (58%). Roedd llety arbenigol ar gyfer pobl hŷn yn fwy poblogaidd ymhlith y rhai a oedd yn rhentu na’r rhai oedd yn berchen ar eu cartref eu hunain.

Mae amrywiaeth o gynlluniau ar gyfer adeiladau cartrefi fforddiadwy newydd ar gyfer pobl hŷn/sy’n barod ar gyfer gofal eisoes yn yr arfaeth a bydd y rhain yn darparu 741 o gartrefi newydd erbyn 2030 y bydd 434 ohonynt yn gartrefi cyngor, 207 yn gartrefi Landlord Cymdeithasol Cofrestredig a bydd 100 ar gael i bobl hŷn eu prynu. ​

Os byddwn yn bwrw ymlaen gyda’r holl gynlluniau, bydd hyn yn rhagori ar yr anghenion ychwanegol a ragwelir ar gyfer llety rhent, sef 585 o unedau. Fodd bynnag, mae’n annhebygol y bydd yr holl lety pobl hŷn sy’n bodoli ar hyn o bryd yn diwallu anghenion yn y dyfodol ac efallai bydd angen i ni roi’r gorau ar ddefnyddio rhai ohonynt. Felly, byddwn yn parhau i edrych ar ffyrdd o wella tai yn y dyfodol. 

Mae fersiwn newydd Polisi Cynllunio Cymru yn llawer cliriach o ran y rôl y dylai cynllunio ei chwarae wrth hyrwyddo tai ar gyfer pobl hŷn ac mae’n ei gwneud yn ofynnol i ni bennu targedau penodol ar gyfer tai pobl hŷn a gweithio gyda datblygwyr i gyflawni hyn.

Bydd angen canolbwyntio ar hysbysebu tai preifat i bobl hŷn er mwyn darparu’r 1811 o gartrefi ychwanegol ‘ar werth’ a amcangyfrifwyd.​
​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd