Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yw gwella llesiant economaidd, cymdeithasol a diwylliannol Cymru drwy ddatblygu cynaliadwy.​


​​​​

Mae’r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar gyrff sector cyhoeddus i weithredu i gyflawni 7 nod llesiant yn unol ag ‘Egwyddor datblygiad cynaliadwy’.  


Mae'r 7 nod llesiant fel a ganlyn:


  • Cymru lewyrchus
  • Cymru gadarn
  • Cymru iachach
  • Cymru fwy cydradd
  • Cymru o gymunedau cydlynus
  • Cymru o ddiwylliant byw a’r iaith Gymraeg yn ffynnu
  • Cymru gyfrifol fyd-eang​


Er mwyn dangos eu bod yn gweithredu ‘Egwyddor datblygiad cynaliadwy’, bydd angen i gyrff cyhoeddus:


  • Edrych i’r tymor hir 
  • Canolbwyntio ar atal drwy ddeall  y rhesymau craidd sy’n achosi problemau 
  • Darparu dull integredig o gyflawni’r 7 nod llesiant 
  • Cydweithio ag eraill i nodi atebion cynaliadwy a rennir
  • Cynnwys poblogaethau amrywiol yn y penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw


Bydd cyrff cyhoeddus yn gweithredu ar y cyd drwy’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i wella llesiant economaidd, cymdeithasol a diwylliannol ardal yr Awdurdod Lleol.  Mae’r aelodaeth statudol yn cynnwys yr Awdurdod Lleol, Bwrdd Iechyd, Gwasanaeth Tân ac Achub a Chyfoeth Naturiol Cymru. 


I ddysgu mwy am Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd ewch i Cardiff Partnership​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd


Bydd cyflawni’r 7 nod llesiant yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn helpu i sicrhau bod Caerdydd yn lle gwych i fyw, gweithio a chwarae ynddo heddiw ac i’r dyfodol.



​​​​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd