Datblygu Cynaliadwy
Nod datblygu cynaliadwy yw galluogi pawb ym mhedwar ban byd i ddiwallu eu hanghenion sylfaenol a mwynhau bywyd o ansawdd da, nawr ac yn y dyfodol.
I ni mae hyn yn golygu gweithio tuag at fod yn ddinas gynaliadwy, lle mae pobl yn byw bywydau hir, iach a hapus tra'n byw o fewn cyfyngiadau amgylcheddol y Ddaear.
Mae Caerdydd heddiw yn ddinas tair planed. Pe bai pawb yn y byd yn defnyddio adnoddau naturiol ac yn cynhyrchu carbon deuocsid i’r un graddau â ni yng Nghaerdydd, byddai angen tair planed arnom i’n cynnal. Yn amlwg, nid yw sefyllfa o’r fath yn gynaliadwy. Ein dyhead yw bod Caerdydd yn ddinas un blaned erbyn 2030Dolen allanol yn agor mewn ffenest newydd.
Gweld ein datganiad amgylcheddol 2020 - 2021 Dolen yn agor mewn ffenestr newydd.
Masnach Deg
Ym mis Mawrth 2004, daeth Caerdydd yn Brifddinas Masnach Deg gyntaf y byd, a rhoddwyd y dyfarniad hwn gan y Sefydliad Masnach Deg. Mae gan y Cyngor bolisi o weini te a choffi masnach deg mewn cyfarfodydd ac mae’n weithredol o ran cefnogi hyrwyddo Masnach Deg ar draws y ddinas. Mae gan y Cyngor gynrychiolaeth ar Fasnach Deg CaerdyddDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd, sy’n bartneriaeth leol o sefydliadau ac unigolion sydd wedi ymrwymo i godi ymwybyddiaeth o fasnach deg a chynyddu prynu cynhyrchion masnach deg ledled y ddinas.
Mae Masnach deg yn cynnig y posibilrwydd o farchnad sicr i ffermwyr a chynhyrchwyr yn y byd datblygol, gan alluogi iddynt gael pris teg a chyson am eu cynnyrch sy’n adlewyrchu’r gwir gost o'i gynhyrchu. Mae hefyd yn ein grymuso fel defnyddwyr i gymryd cyfrifoldeb am y rôl rydym yn ei chwarae wrth brynu cynhyrchion o’r byd datblygol.
Ynni
Rydym oll yn dibynnu ar ynni i fyw; yn ein cartrefi, yn y gwaith ac i deithio. Yr heriau i ni heddiw yw sicrhau biliau ynni mwy fforddiadwy, gyda’r fantais ychwanegol o leihau ein hallyriadau carbon, a gweithio tuag at sicrhau cyflenwad ynni mwy lleol a mwy cynaliadwy ar gyfer ein dinas.
Cynllun Ynni Dŵr Cored Radur
Rydym yn gweithio ar cynllun cynhyrchu ynni dŵr sy’n defnyddio dŵr o Afon Taf i greu trydan. Dysgwch rhagor am Cynllun Ynni Dŵr Cored Radur.