Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cynllun Ynni Dwr Cored Radur

Beth yw Cynllun Ynni Dŵr Cored Radur?

Cynllun cynhyrchu ynni dŵr sy’n defnyddio dŵr o Afon Taf i greu trydan.


Sut mae’n gweithio?


Mae'r cynllun yn manteisio ar bŵer y dŵr yn llifo drwy Afon Taf. Mae’r safle’n arbennig o addas ar gyfer hyn oherwydd bod y dŵr yn llifo’n gyflym yn ogystal â’r gwahaniaeth uchder a achosir gan y gored yn Radur.

Mae rhan o’r project yn cynnwys adeiladu sianel ar hyd Afon Taf. Mae hyn yn caniatáu i ddŵr lifo lawr drwy ddau dyrbin (o’r enw tyrbinau sgriw Archimedes). Mae pŵer y dŵr yn troi'r tyrbinau. Mae’r tyrbinau hyn yn sownd ar eneradur sy’n creu ynni adnewyddadwy ar ffurf trydan. Ar ôl i’r dŵr basio drwy’r tyrbinau mae’n dychwelyd yn ôl i’r afon.


Pa mor fawr fydd y cynllun?


Mae pob un o’r tyrbinau sgriw yn 4 metr o ddiamedr a thua 10m o hyd. Bydd y cynllun yn creu digon o drydan i bweru 550 o dai. Gall y system gynhyrchu hyd at 394kW o bŵer ar unrhyw un adeg.


Beth fydd yn digwydd i’r ynni sy’n cael ei gynhyrchu?


Mae’r cynllun wedi’i gysylltu â’r rhwydwaith dosbarthu trydan lleol sy’n rhedeg ochr yn ochr â’r cynllun.  


Pam fod y Cyngor yn gwneud hyn?


Mae gan Gaerdydd ddyhead i fod yn Ddinas Un Blaned erbyn 2050. Mae’r weledigaeth hon yn canolbwyntio ar gynaliadwyedd amgylcheddol ynghyd â buddion economaidd-gymdeithasol y dull gweithredu hwn, y mae ynni’n rhan fawr ohono. Mae gan y cyngor ddyhead i leihau'r effaith a gaiff ar yr amgylchedd, a helpu Caerdydd i fod yn ddinas un blaned.

Mae’r llywodraeth hefyd yn cynnig arian ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy fel ynni dŵr. Mae hyn yn golygu bod y cynllun yn gwneud synnwyr ariannol.

Pryd fydd y cynllun ar agor i’r cyhoedd?


Rydym yn disgwyl i’r cynllun gael ei gysylltu â’r rhwydwaith dosbarthu lleol a chreu ynni o ddiwedd mis Rhagfyr 2015. Disgwylir y bydd y cynllun ar waith yn llawn o fis Ebrill 2016. 
© 2022 Cyngor Caerdydd