Mae'r cynllun Taliad Cymorth Hunanynysu wedi'i gynllunio i
helpu pobl sy'n gweithio gydag incwm isel na allant weithio o
gartref ac felly y byddant yn colli enillion pan ddywedir wrthynt i
hunanynysu gan Wasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu (POD) GIG Cymru.
Darganfyddwch
fwy a
sut i wneud cais am y cynllun Taliad Cymorth Hunanynysu.
Ar ddydd Gwener 8 Ionawr, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd pob ysgol, coleg ac ysgol annibynnol yn parhau gyda dysgu o bell tan hanner tymor mis Chwefror oni bai bod lleihad sylweddol mewn achosion o’r coronafeirws cyn 29 Ionawr – dyddiad y adolygiad tair wythnos nesaf o’r rheoliadau.
Darllenwch ein
cwestiynau cyffredin i rieni a disgyblion. Rydym yn diweddaru'r rhain yn rheolaidd yn unol â’r
wybodaeth ddiweddaraf am ysgolion.
Prydau Ysgol Am Ddim
Ar gyfer plant sy'n gymwys i gael Prydau Ysgol Am Ddim, bydd y
systemau e-dalebau a Parent Pay yn parhau ar waith hyd nes y
daw'r ddarpariaeth arlwyo yn ôl i rym ym mhob ysgol.
Gwneud cais am le mewn ysgol
Am help a chyngor ar dderbyn i ysgolion, gan gynnwys cyflwyno cais
hwyr, ewch i’r system ar-lein Derbyn i Ysgolion neu e-bostiwch
derbyniysgolion@caerdydd.gov.uk
Apeliadau
Mae ein tîm apeliadau’n parhau i broses apeliadau derbyn lleoedd
ysgol. Os hoffech apelio, anfonwch y ffurflen gais wedi’i chwblhau i
apeliadauysgolion@caerdydd.gov.uk
Canolfannau ailgylchu
Bydd canolfannau ailgylchu Clos Bessemer a Ffordd Lamby ar agor
ar gyfer trefniadau a wnaed ymlaen llaw yn unig.
Gweld
telerau ac amodau ein ganolfannau ailgylchu
Casgliadau gwastraff gardd y gaeaf hwn – newidiadau i
wasanaeth
Ni fydd unrhyw gasgliadau gwastraff gardd ym mis Rhagfyr na
Chwefror.
Cynhelir casgliadau am bythefnos ym mis Ionawr, ar gyfer casglu coed
Nadolig a gwastraff gardd arall.
Gellir mynd â gwastraff gardd i
ganolfannau ailgylchu
gydol y flwyddyn.
Cadarnhewch ddyddiadau eich casgliadau ailgylchu a gwastraff.
Casgliadau Eitemau swmpus
Darganfyddwch
fwy am gasgliadau eitemau swmpus a sut i drefnu casgliad.
Os ydych yn cael trafferth talu’ch treth gyngor am eich bod ar incwm
isel neu is, gallwch o bosib gael Gostyngiad y Dreth Gyngor.
Dysgwch ragor a gwnewch gais am ostyngiad.
Os ydych eisoes yn cael Gostyngiad y Dreth Gyngor
gallwch
roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau.
Os oes gennych bryderon am eich taliadau treth
gyngor
cysylltwch â thîm y Dreth Gyngor ar ein ffurflen gyswllt
ar-lein
neu drwy e-bostio’r swyddfa yn
trethgyngor@caerdydd.gov.uk
Oherwydd y pandemig COVID-19 rydym yn cael nifer fawr o
ymholiadau. Byddwch yn amyneddgar, byddwn yn cysylltu’n ôl gynted ag
y gallwn. Mae’n ddrwg gennym os yw hyn yn anghyfleus.
Ardaloedd chwarae
Bydd parciau lleol a mannau chwarae yn aros ar agor.
Bydd
cyrtiau chwaraeon, parciau sglefrio a champfeydd awyr agored
ar gau.
Llyn Parc y Rhath
Bydd system unffordd dros dro ar gyfer cerddwyr o amgylch Llyn
Parc y Rhath yn aros yn ei lle saith diwrnod yr wythnos hyd nes y ceir
rhybudd pellach.
Bydd traffig dwyffordd yn cael ei gynnal
ar Wild Gardens Road, Lake Road East a Lake Road West, rhwng y Gerddi
Gwyllt a'r promenâd. Yma, bydd yr holl leoedd parcio i ymwelwyr yn
cael eu tynnu, yn agosaf at y Llyn, a fydd yn creu lle ychwanegol i
feicwyr a loncwyr.
Pont y Gored Ddu
Mae Pont y Gored Ddu dros Afon Taf ar gau.
Gweld
trefniadau ar gyfer Hybiau, Llyfrgelloedd canolfannau a
threfniadau cymunedolDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd.
Llyfrgelloedd
Gallwch gael gafael ar e-lyfrau, llyfrau llafar a chylchgronau
drwy gyfrwng ein
llyfrgell ar-leinDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd
Rydym wedi creu Gweithgareddau’r Cloi Mawr gan gynnwys fideos, taflenni gweithgareddau, a chwisiau i chi
eu mwynhau gartref tra bod yr Hybiau a’r Llyfrgelloedd ar gau.
Mae rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus Cyngor Caerdydd dal ar agor
i'w ddefnyddio gan y cyhoedd. Bydd hyn yn parhau i gael ei adolygu
a gall newid os nodir ardaloedd lle mae grwpiau o bobl yn ymgasglu ac
yn mynd ati i anwybyddu mesurau a nodwyd gan y Llywodraeth.
Gofynnwn i bob aelod o'r cyhoedd ddilyn y gofynion o
ran ymbellhau cymdeithasol a defnyddio eu llwybrau lleol yn hytrach na
theithio i gefn gwlad yn ddiangen. Mae llawer o lwybrau troed a
llwybrau ceffylau yn croesi tir preifat, ffermydd ac mewn rhai
achosion maent yn agos i gartrefi preifat. Cadwch at y llwybrau,
cadwch eich pellter oddi wrth dirfeddianwyr a pharhewch i ddilyn y
cyfyngiadau a'r mesurau sydd yn eu lle i'ch diogelu chi ac
eraill.
Caiff pob hysbysiad cau llwybr ei gyhoeddi ar-lein
a bydd hysbysiadau'n cael eu dangos ar y safle dan
Reoliad 14(3)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau
Coronafeirws)(Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.)(Cymru)2020Dolen allanol yn agor mewn ffenest newyddCeir canllawiau penodol ar y Rheoliadau Coronafeirws mewn
perthynas â llwybrau tramwy a thir mynediad, ynghyd â rhestr canoledig
o ddolenni i gaeadau Awdurdodau unigol
yn y dolenni canlynolDolen yn agor mewn ffenestr newydd
Hysbysiad cau llwybr cerdded
Gofyniad i gau er mwyn lleihau'r risg o gyswllt cyhoeddus a
lledaenu’r Coronafeirws.
Yr Eglwys Newydd Llwybr Cerdded Cyhoeddus Rhif 78 Rhiwbina Hill at
Lôn Ysgubor (547kb PDF)Dolen yn agor mewn ffenestr newydd. O 31 Mawrth, 2020 tan ddiwedd cyfnod argyfwng COVID-19.
Yn sgil y cyngor a roddwyd gan y Llywodraeth, rydym wedi penderfynu
cau nifer o leoliadau i'r cyhoedd yn gyfan gwbl:
Mae Neuadd y Ddinas a Neuadd y Sir ar gau fel lleoliadau ar gyfer
llogi preifat a digwyddiadau preifat.
Mae
Marchnad CaerdyddDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd ar agor ar gyfer nwyddau hanfodol yn unig.
Bydd digwyddiadau y bwriedir eu cynnal yn ddiweddarach yn y flwyddyn
yn parhau i gael eu hadolygu a bydd penderfyniadau ynghylch a ydynt
yn mynd rhagddynt yn cael eu gwneud ar sail y cyngor diweddaraf gan
y Llywodraeth ar yr adeg honno.
Cofrestriadau genedigaethau newydd
Yn sgil canllawiau Llywodraeth Cymru, rydym wedi dechrau ar ein
proses adfer ar gyfer cofrestru genedigaethau.
Os oes
gennych apwyntiad eisoes, bydd ein Cofrestrwyr yn cysylltu â chi’n
uniongyrchol.
Rhagor a wybodaeth am
gofrestri genedigaethau ar wefan Cofrestri CaerdyddDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd
Priodasau
Gall hyd at 10 o westeion bellach fynychu priodasau a
phartneriaethau sifil a gynhelir yn yr ystafell seremonïau fach yn
y Swyddfa Gofrestru, ond rhaid dilyn canllawiau Llywodraeth
Cymru/Iechyd Cyhoeddus Cymru a rheolau ymbellhau cymdeithasol bob
amser.
Os oes gennych drefniadau ar y gweill gyda ni a hoffech drafod
eich opsiynau, cysylltwch â ni ar 029 2087 1680/4 neu seremoniau@caerdydd.gov.uk
Angladdau
Gallwch weld y cyngor a’r canllawiau diweddaraf ar angladdau,
crematoria a mynwentydd ar
wefan Gwasasnaethau Profedigaeth Caerdydd.Dolen allanol yn agor mewn ffenest newydd
Ein blaenoriaeth yw cadw tenantiaid a staff yn ddiogel yn ystod y
cyfnod anodd iawn hwn ac mae hyn yn golygu ein bod wedi gorfod gwneud
rhai newidiadau i wasanaethau. Mae'r newidiadau rydym wedi'u
gwneud yn cydymffurfio â chanllawiau Iechyd y Cyhoedd a Llywodraeth
Cymru.
Gweler y
Llythyr at Denantiaid oddi wrth Julie James, y Gweinidog Tai a
Llywodraeth Leol (450kb PDF)Dolen yn agor mewn ffenestr newydd
Atgyweiriadau
Ar hyn o bryd, rydym yn rhoi blaenoriaeth i argyfyngau neu waith atgyweirio brys ar dai cyngor. Os oes angen i chi gysylltu â ni ynghylch argyfwng/gwaith trwsio brys ffoniwch 029 2087 2088.
Os ydych yn rhoi gwybod am argyfwng/atgyweiriad brys a’ch bod yn hunanynysu neu wedi cael prawf coronafeirws positif rhowch wybod i ni pan fyddwch yn cysylltu â ni.
Os oes gennych apwyntiad ar gyfer gwaith trwsio brys, rhowch wybod i ni ymlaen llaw os ydych wedi cael prawf Covid19 positif neu os ydych yn dangos symptomaudrwy ffonio 02920872087.
Taliadau Rhent
Mae’r rhan fwyaf o wasanaethau’n gweithredu fel arfer, ond dylai
Tenantiaid sy’n cael problemau â thalu rhent ddal i gysylltu â ni.
Gall staff gynnig cyngor a chymorth a byddant yn parhau i helpu
tenantiaid drwy’r cyfnod anodd hwn.
Materion yn ymwneud â Thenantiaeth ac Ymddygiad
Gwrthgymdeithasol
Mae ymweliadau gartref yn cael eu gwneud mewn achosion argyfwng a
brys. Mae unrhyw ymweliadau ag ardaloedd tu allan hefyd wedi
ail-ddechrau. Bydd gwaith arferol yn dali gael ei wneud dros y ffôn
os yn bosibl.
Glanhau Ardaloedd Cymunedol Fflatiau
Bydd gofalu ond yn glanhau Hosteli, Llety Gwarchod a mannau lle mae nifer o achsion o 28 Rhagfyr.
Atelir glanhau ardaloedd a rennir nes y rhoddir gwybod fel arall.
Cynnwys Tenantiaid
Mae pob cyfarfod sydd wedi ei drefnu gan y Cyngor wedi ei atal.
Argymhellwn yn gryf y dylai pob grŵp atal eu cyfarfodydd.
Symud Cartref
Mae ymweliadau yn cael eu cynnal yn rhithiwr. Pan fydd gwaith
ar eiddo wedi’i gwblhau, caiff fideo ei anfon at yr ymgeisydd
sydd wedi llofnodi ar gyfer yr eiddo i ddangos ba waith sydd
wedi’i wneud.
Caiff cytundeb tenantiaeth a dogfennau perthnasol eraill eu
cyflwyno a’u llofnodi’n ddigidol.
Ar ôl llofnodi cytundeb tenantiaeth, byddwn yn cysylltu â'r
tenant i drafod telerau ac amodau ei denantiaeth, ynghyd â
chynorthwyo gydag unrhyw geisiadau eraill – e.e. trefnu
cyfleustodau neu gymorth cyrchu (os oes
angen).
Rhoddir mynediad i allweddi ar y cam hwn.
Digartrefedd
Byddwn yn dal i weithio ar ein heiddo gwag ac yn helpu pobl
ddigartref i symud allan o lety dros dro a hosteli.
Rydym ar agor rhwng 9-5 o ddydd Llun i ddydd Iau a 9 – 4:30pm dydd Gwener.
Newidiadau i Barcio a Theithio oherwydd COVID-19:
Parcio a
Theithio y Dwyrain: Dydd Llun – dydd Sul.
Parcio a Theithio’r
Gorllewin: Nid yw’r gwasanaeth yn rhedeg ar hyn o bryd.
Parcio a
Theithio’r De: Bydd y gwasanaeth yn ailgychwyn o ddydd Sadwrn 14
Tachwedd 2020 am 8 wythnos tan 2 Ionawr 2021.