Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Strydoedd Ysgolion

​​​​​​​​​​​​​​​​​Mae Strydoedd yr Ysgol yn ardaloedd o amgylch mynedfeydd ysgol sydd ar gau i gerbydau yn ystod amseroedd gollwng a chasglu brig. 

Diben hyn yw helpu plant i gael mynediad i'r ysgol yn ddiogel, hyrwyddo teithio llesol a lleihau llygredd aer. 

Dim ond cerbydau sydd â thrwyddedau stryd ysgol dilys sy'n cael mynd i mewn i Strydoedd yr Ysgol yn ystod amseroedd cyfyngedig.

Lleoliadau Strydoedd Ysgol


Mae nifer o strydoedd ysgol yng Nghaerdydd, ac mae gan bob un ei chyfeirnod lleoliad: ​



YsgolFfyrdd yr Effeithir Arnynt​Amseroedd Cyfyngedig​​Cyf. Parth ​​​
​Ysgol Gynradd Melin Gruffydd​
​Glan Y Nant Road
Glan Y Nant Terrace
Davis’s Terrace
​​8:30am i 9:15a​m
2:45pm i 3:45pm
​​SZ1
​Ysgol Gynradd Pencaerau​Cyntwell Avenue​​8:30am i 9:15a​m
2:45pm i 3:45pm
​​SZ2​
​Peter Lea Primary School
​​Carter Place​​8:30am i 9:15a​m
2:45pm i 3:45pm
​​SZ3
​Llandaff City Church in Wales Primary School
​Hendre Close​​8:30am i 9:15a​m
2:45pm i 3:45pm
​SZ4
Lansdowne Primary School

​​Norfolk Street
Surre​y Street
​​8:30am i 9:15a​m
2:30pm i 3:15pm
​SZ5
Ysgol Gynradd Coed y Gof
Bramble Close 
Lime Grove
8:30am i 9:30am
2:30pm i 3:30pm

SZ6
Rhiwbina Primary School

​Lon Y Dail
Lon Ganol 
Lon Ucha
8:30am i 9:15a​m
3pm i 3:45pm
​SZ8
​Bryn Y Deryn PRU, ​Ysgol Gynradd Pwll Coch, a Fitzalan High School
​Lawrenny Avenue
​8:15am i 9:15am
2:30pm i 3:45pm
​SZ9
​YsgolFfyrdd yr Effeithir Arnynt​​Amseroedd CyfyngedigCyf. Parth 
​Ysgol Gynradd Creigiau ​​​Tregarth Close
Llys Tregarth 
​8:30am i 9:30a​m
3pm i 4pm
​SS1
​Glan Yr Afon Primary School
​Browning Close​​​​8:30am i 9:30a​m
2:30pm i 3:30pm
​SS2
Gladstone Primary School a
St Monica's Church in Wales Primary School
​Pentyrch Street
Cwmdare Street​
​8:30am i 9:30a​m
3pm i 4pm
​​SS3
Tredegarville Church in Wales Primary School
Lôn Heol Casnewydd  
​8am i 9:30a​m
2pm i 4pm
​SS4
Bryn Hafod Primary School
​Blagdon Close
Uphill Road​
​8:30am i 9:30am
2:30pm i 3:30​pm
​SS5
Willowbrook Primary School

​Bulrush Close​
​​8:30am i 9:30a​m
3pm i 4pm
​SS6
​St Peter’s RC Primary School​Southey Street​​​8:30am i 9:30a​m
3pm i 4pm
​SS7
​St Cuthbert’s RC Primary School 

Heol Letton​​8:30am i 9:30a​m
3pm i 4pm​
​SS8
Lakeside​ Primary School

Ontario Way
Winnipeg Drive
Manitoba Close​
​​​​8:30am i 9:30a​m
3pm i 4pm
​​SS9
Ysgol
Ffyrdd yr Effeithir Arnynt​Amseroedd Cyfyngedig​​​Cyf. Parth 
Kitchener Primary School
Railway Terrace
​8:15am i 9:15a​m
2:15pm i 3:15pm
​SA2
St Paul's Church in Wales Primary School
​Bromsgrove Street 
Oakley Place
Hewell Street
​​​​8:30am i 9:15a​m
2:30pm i 3:15pm
​SA3



Trwyddedau stryd ysgol 


Gallech o bosibl wneud cais am drwydded fydd yn galluogi eich cerbyd i yrru mewn Stryd Ysgol yn ystod amseroedd cyfyngedig. 

Mae pob trwydded Stryd Ysgol am ddim, a rhaid gwneud cais am un ar-lein. Rhowch 7 diwrnod gwaith i’ch cais am drwydded gael ei ystyried. 

Gallwch wneud cais am drwydded os ydych chi’n byw mewn Stryd Ysgol a bod eich cerbyd wedi’i gofrestru neu’b cael ei gadw yn eich cyfeiriad. Gyda'ch cais bydd angen i chi ddarparu:  

  • ​Prawf o'ch preswyliad (megis bil y Dreth Gyngor neu fil trydan/dŵr/nwy sydd wedi'i ddyddio o fewn 3 mis i'ch cais), a;
  • Copi o un o'r canlynol i brofi bod eich cerbyd yn cael ei gadw yn eich cyfeiriad:  
    1. Tystysgrif cofrestru cerbyd (Llyfr log V5C)
    2. Cytundeb Prydlesu, Cytundeb Cyllid neu Gytundeb Rhentu 
    3. Tystysgrif a Pholisi Yswiriant (gan gynnwys Yswiriant Motability) 
    4. Cerbydau Cwmni: mae'n rhaid i chi ddarparu llythyr pennawd cwmni o fewn 28 diwrnod i'ch cais i gadarnhau pob un o'r canlynol, eich bod chi'n gyflogai/cyfarwyddwr, rydych wedi'ch awdurdodi i yrru'r cerbyd, rydych yn cadw'r cerbyd dros nos yn eich cyfeiriad, rhif cofrestru eich cerbyd ac enw a swydd y person sy'n llofnodi'r llythyr.





Bydd y trwyddedau yn para hyd at flwyddyn neu nes y daw’ch preswyliaeth i ben; p’run bynnag sydd gyntaf.

Cofiwch nad trwyddedau parcio mo’r trwyddedau hyn, ac os ydych chi’n breswylydd bydd angen i chi wneud cais am drwydded parcio’n ar wahân os oes llefydd parcio â thrwydded ar eich stryd.  


Gallwch wneud cais am hyd at ddwy drwydded Stryd Ysgol Bathodyn Glas blynyddol os ydych yn ddeiliad Bathodyn Glas ac os:

  • Yn rhiant sydd â phlentyn sy’n mynychu ysgol ar y stryd ysgol 
  • Yn aelod o staff yn un o’n hysgolion treial
  • Yn breswylwydd ar stryd ysgol





Bydd angen i chi uwchlwytho prawf cymhwyster. 

Ni fydd yn rhaid i chi fod yn yrrwr neu'n berchennog y cerbyd gan fod trwyddedau Bathodyn Glas yn gymwys i unrhyw gerbyd.  Fodd bynnag, dim ond pan fydd y cerbyd yn cael ei ddefnyddio er budd deiliad y Bathodyn Glas ar adeg mynd i’r Stryd Ysgol y bydd y drwydded yn gymwys.

Bydd y trwyddedau yn para hyd at flwyddyn neu nes y daw’ch bathodyn glas i ben; p’run bynnag sydd gyntaf.​

Os ydych yn Ddeiliad Bathodyn Glas ac yn gofyn am fynediad dros dro i Stryd Ysgol (megis i ymweld â ffrind neu i rywun eich casglu ar gyfer apwyntiad meddyg) cewch wneud cais am drwydded dros dro.

 

Ni fydd yn rhaid i chi fod yn yrrwr neu'n berchennog ar y cerbyd gan fod trwyddedau Bathodyn Glas yn gymwys i unrhyw gerbyd.  Ond dim ond pan fydd y cerbyd yn cael ei ddefnyddio er budd deiliad y Bathodyn Glas yn unig y bydd y drwydded yn gymwys. 


Bydd y rhain yn para hyd at 3 diwrnod calendr.


Bydd angen eich cyfeirnod Bathodyn Glas a rhif cofrestru eich cerbyd arnoch.​

Gwnewch gais am eithriad Bathodyn Glas dros dro​​​​​​​
Mae Cyngor Caerdydd a.n darparwr trwyddedau, MiPermit, o ddifri ynghylch rheoli eich data personol. Bydd unrhyw ddata personol a roddwch wrth wneud cais am drwydded yn gwbl gyfrinachol yn unol â deddfwriaeth diogelu data bresennol. 

Bydd y wybodaeth a ddarparwch yn cael ei defnyddio i'n galluogi i brosesu a rheoli eich trwydded, ond gellir ei defnyddio hefyd ar gyfer dadansoddi ystadegol, nodi twyll neu unrhyw gamau gorfodi sy'n ymwneud â Hysbysiadau Tâl Cosb, neu ar gyfer unrhyw ddiben arall fel y caniateir neu sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith. 

Darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd​​


Gorfodi​


Mae’n drosedd gyrru ar stryd y​​sgol weithredol heb drwydded stryd ysgol ddilys. Byddwn yn defnyddio camerâu gorfodi i fonitro strydoedd ysgol ac yn cyflwyno dirwyon (Hysbysiadau Tâl Cosb) i droseddwyr. 

Cosb y drosedd hon yw £70, wedi’i lleihau i £35 os caiff ei thalu o fewn 21 diwrnod. Os caiff yr HTC ei anwybyddu, bydd y gosb yn codi. Fe fydd hawl i apelio os tybiwch na ddylid bod wedi cyflwyno’r Hysbysiad Tâl Cosb. 

Byddwn yn gorfodi ar hyn pan fydd yr ysgolion ar agor​. ​


​​​​ ​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd