Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Lles anifeiliaid mewn argyfwng

Os ydych yn berchen ar anifail chi sy’n gyfrifol am ei les p’un a ydych yn berchennog ar fferm fechan neu fod gennych gi neu gath yn byw gyda chi a’ch teulu.

Cynlluniwch i ddiogelu eich anifail anwes mewn argyfwng. Ystyriwch y canlynol:

  • Trefnwch ffrind argyfwng i’ch anifail, ffrind fyddai’n gofalu am eich anifail anwes pe bydda’n rhaid i chi adael eich cartref. Gall fod yn ffrind sy'n cerdded ei gi neu ffrind sy'n hoff o gathod neu os oes gennych anifail mwy egsotig, rhywun abl a pharod i edrych ar ei ôl.

  • Gwnewch gopi o gerdyn imiwneiddio eich anifail anwes a chadwch fanylion eich milfeddyg gyda’r cerdyn rhag ofn y bydd angen trefnu lloches i’r anifail.

  • Os gallwch chi, ewch ag unrhyw feddyginiaeth i’r anifail gyda chi wrth i chi adael mewn argyfwng, ond os oes perygl i'ch diogelwch dilynwch gyngor y gwasanaethau brys. 

  • Os oes rhaid i chi adael yr anifail yn  yr eiddo, ystyriwch roi rhyddid iddo  grwydro o fewn yr eiddo ond i ffwrdd o unrhyw berygl posib a gwnewch yn siŵr fod digon o fwyd a diod am 3 diwrnod iddo.

  • Efallai y gall canolfan argyfwng Cyngor Caerdydd adael i berchennog ddod â’i gi neu gath i ardal benodol i anifeiliaid o fewn y ganolfan argyfwng ond y perchennog sy’n gyfrifol am les yr anifail a sicrhau ei fod yn cael ei gadw’n ddiogel ac nad yw’n risg i bobl neu anifeiliaid eraill. Ni fydd modd cadw anifeiliaid peryglus/egsotig yn un o ganolfannau Argyfwng Cyngor Caerdydd.

  • Peidiwch byth â gadael anifail mewn car hyd yn oed os yw’r ffenestr ar agor gan fod ceir yn gallu poethi’n beryglus mewn munudau, nid dim ond yn yr haf!


Mae mwy o wybodaeth ar les anifeiliaid i’w gael ar wefan yr RSPCA neu os yw anifail mewn gofid gallwch ffonio’r RSPCA ar: 

0300 1234 999

© 2022 Cyngor Caerdydd