Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cydnerthu cymunedol

Gellir diffinio cyd-nerthu cymunedol drwy ddweud: “Cymunedau ac unigolion yn defnyddio’u hadnoddau a’u harbenigedd lleol i’w helpu mewn argyfwng, mewn modd sy’n ategu ymateb y gwasanaethau brys.”

Mae cyd-nerthu cymunedol yn rhan o amryw gymunedau ac mae’n newid ac esblygu yn barhaus. Tra bod ewyllys da pobl mewn argyfwng ar y diwrnod yn hollbwysig, erbyn hyn mae pobl yn cymryd camau, fel unigolion ac ar y cyd, i baratoi eu hunain ymlaen llaw cyn bod argyfwng yn digwydd.

Mae Cyngor Caerdydd wedi paratoi dogfen sy’n darparu cyfarwyddyd i gymunedau ar baratoi cynlluniau argyfwng i gymunedau ac aelwydydd, gellir gweld y cyfarwyddyd drwy ddilyn y ddolen isod. 

Paratoi ar gyfer Argyfungau – Canllaw ar gyfer Cymenedau


Gall cymryd un neu ddau o gamau cyn i argyfwng ddigwydd helpu i’ch cadw chi a’ch teulu yn ddiogel. 

Ystyriwch y canlynol:

  • Gosodwch larymau mwg yn eich eiddo.



  • Siaradwch gyda’ch teulu a ffrindiau a threfnwch “Gyfaill Argyfwng”, sef eich pwynt cyswllt cyntaf pe bai rhaid i chi adael eich cartref a chadw’ch teulu a chi eich hun yn ddiogel. Byddech chi a’ch teulu yn fwy cyffyrddus gyda ffrindiau neu deulu nag y byddech mewn Canolfan Argyfwng/orffwys wedi ei drefnu gan y Cyngor.


  • Paratowch fag i fynd yn cynnwys manylion cyswllt hanfodol a chyflenwad o fwyd, meddyginiaethau hanfodol i aelodau’r teulu neu i anifeiliaid anwes. Efallai yr hoffech chi hefyd gynnwys copïau o ddogfennau pwysig fel dogfennau yswiriant neu Gardiau/cofnodion brechu anifeiliaid anwes. (gwybodaeth bellach ar gael yn y ddogfen  Paratoi ar gyfer Argyfungau – Canllaw ar gyfer Cymenedau​)


  • Sicrhewch eich bod yn cynllunio i gadw eich anifeiliaid anwes yn ddiogel. Peidiwch byth â pheryglu eich diogelwch er mwyn achub anifeiliaid anwes mewn argyfwng lle byddwch chi eich hun mewn perygl, ond chi sy’n gyfrifol am les eich anifeiliaid anwes.


  • Beth am gael ffrind wrth law i helpu’ch anifail anwes, efallai na all y ffrind roi llety i’ch teulu mewn argyfwng, ond efallai y byddan nhw’n barod i edrych ar ôl ci neu gath tan i chi allu mynd adref neu drefnu lloches iddyn nhw. Mae mwy o wybodaeth ar les anifeiliaid i’w gael ar wefan yr RSPCA neu os yw anifail mewn gofid gallwch ffonio’r RSPCA ar: 


​​​0300 1234 999



​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd