Mae Caerdydd yn cymryd rhan mewn Dinasoedd Di-si sy'n Rhwydwaith Trosglwyddo URBACT o saith dinas: Amadora (Prif Bartner), Caerdydd, Hamburg-Altona, Warsaw, Alba Iulia, Ioannina a Messina.
Mae'r rhwydwaith yn canolbwyntio ar drosglwyddo arfer gorau a sefydlwyd gan fwrdeistref Amadora, sy'n mynd i'r afael ag angen cyffredin ymysg y partneriaid; sut i wrthsefyll agweddau cynyddol negyddol tuag at grwpiau lleiafrifol. Mae'r arfer yn canolbwyntio'n bennaf ar grwpiau mudol a lleiafrifoedd ethnig, megis Roma a ffoaduriaid sydd wedi cyrraedd yn ddiweddar, ond gellir defnyddio'r arferion gwrth-ragfarn gyda grwpiau lleiafrifol eraill megis y gymuned LGBT.
Amcanion Lleol Caerdydd
- Datblygu naratif dinas gynhwysol a gweladwy sy'n cydnabod ac yn dathlu amrywiaeth Caerdydd a chyfraniadau cymunedau lleiafrifol Caerdydd yn gyson.
- Creu sylfaen dystiolaeth leol ar agweddau cymdeithasol a phrofiadau trigolion o leiafrifoedd yn y ddinas, yn enwedig o ran preswylwyr mudol a phobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.
- Dangos ymrwymiad gwleidyddol gweladwy i barhau i fod yn ddinas agored a byd-eang.
- Adeiladu rhwydwaith o gynghreiriaid a chefnogwyr sy'n ymrwymo i athroniaeth y ddinas o gynhwysiant a chydfodolaeth heddychlon, sy'n gwrthod eithafiaeth a senoffobia.
- Hwyluso arweinyddiaeth ieuenctid ar gyfer cynhwysiant a meddwl yn feirniadol ar faterion cymhleth sy’n ymwneud â hunaniaeth.
Partneriaid Dinasoedd Di-si Lleol Caerdydd
Cyngor Caerdydd, Pafiliwn Butetown, Sefydliad Dinas Caerdydd, Clwb Pêl-droed Tongwynlais, Prifysgol Caerdydd, Canolfan Ffoaduriaid Oasis, Coleg Caerdydd a’r Fro, Rotari Caerdydd, Theatr y Sherman, Heddlu De Cymru, Citizens Cymru, Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig (EYST), Partneriaeth Mudo Strategol Cymru (WSMP), Cymdeithas Tai Cymunedol Caerdydd (CCHA), Rheolwr Polisi Ffoaduriaid a Mudo – Llywodraeth Cymru, a'r Cyngor Ieuenctid.