Mae
Cynllun Lles Lleol Caerdydd 2018-2023
Link opens in a new window
, a gyhoeddwyd gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd, yn gynllun 5 mlynedd sy'n nodi blaenoriaethau gweithredu ar draws y sector cyhoeddus yng Nghaerdydd.
Lluniwyd y cynllun mewn ymateb i
Asesiad Llesiant Caerdydd 2017
Link opens in a new window
ac mae'n nodi'r Amcanion Lles sydd wedi'u nodi fel y rhai pwysicaf gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd.
Mae'r cynllun yn canolbwyntio ar y meysydd darparu gwasanaethau cyhoeddus lle mae wir angen gwaith partneriaeth rhwng gwasanaethau cyhoeddus a chymunedol y ddinas, a chyda dinasyddion Caerdydd.
Mae Cynllun Lles Lleol newydd yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd, er mwyn ei gyhoeddi ym mis Mai 2023, mewn ymateb i Asesiad Lles Caerdydd 2022.
Rhagor o wybodaeth am Asesiad Lles Caerdydd 2022