Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Urddas yn Ystod Mislif

Mae’r Cyngor wedi lansio menter i ddod â chynhyrchion glanweithiol am ddim i ysgolion ledled y ddinas.

Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae’r cynllun newydd wedi’i ddylunio i hyrwyddo urddas mislif a mynd i’r afael â thlodi mislif mewn ysgolion, gan helpu merched a menywod ifanc i gyrraedd eu potensial. Mae’r rhaglen hefyd yn cyfrannu at ymrwymiad Caerdydd i fod yn Dinas sy’n Dda i Blant lle mae barn a blaenoriaethau plant wrth wraidd penderfyniadau.
 
Mae ymchwil a wnaed yng Nghaerdydd yn dangos bod bron i draean o fyfyrwyr yn teimlo bod eu mislif yn effeithio’n negyddol ar eu presenoldeb. Ac mae 40 y cant yn teimlo bod eu mislif yn effeithio’n negyddol ar eu perfformiad yn yr ysgol. 

Canfu’r arolwg hefyd fod preifatrwydd a chynildeb yn ffactorau pwysig i ddisgyblion wrth geisio cael gafael ar gynhyrchion hylendid mewn ysgolion.  

I fodloni’r anghenion hyn, bydd nwyddau hylendid benywod a chyllid ar gyfer biniau glanweithiol ychwanegol yn cael eu rhoi i ysgolion a lleoliadau eraill ledled Caerdydd, gan sicrhau bod merched a menywod ifanc yn gallu cael gafael arnynt yn hawdd pan fo angen. 

Bydd pob ysgol gynradd, uwchradd ac arbennig yn rhan o’r rhaglen a bydd yn dilyn peilot llwyddiannus mewn pedair ysgol; Ysgol Uwchradd Cathays, Ysgol Uwchradd y Dwyrain, Ysgol Gynradd Adamsdown ac Ysgol Gynradd Grangetown.

Yn ôl yn yr haf, cynhaliodd timau Addysg arolwg gyda staff yn holl ysgolion Caerdydd ynghylch eu darpariaeth bresennol o gynhyrchion hylendid i fyfyrwyr benywaidd. Holwyd barn 1,446 o fyfyrwyr uwchradd yn ogystal. 

Mae canfyddiadau’r arolwg a’r cynllun peilot wedi llywio’r gwaith o gyflwyno’r rhaglen ar draws ysgolion y ddinas, a fydd yn dechrau rhwng nawr a’r Pasg ac yn parhau drwy gydol tymor yr haf. Mae manylion a chanllawiau llawn wedi’u rhoi i gefnogi ysgolion. 

Mae dros £117,000 wedi’i roi i Gaerdydd fel rhan o gyllid gwerth £1.14m gan Lywodraeth Cymru​​​​​​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd sydd â’r nod o daclo stigma a mynd i’r afael â thlodi’r mislif mewn cymunedau.

Mae timoedd yn Addysg hefyd wedi bod yn gweithio gyda myfyrwyr a phartneriaid allweddol i edrych ar addysg mislif er mwyn sicrhau ei bod yn bodloni eu hanghenion.

© 2022 Cyngor Caerdydd