Dylai pawb allu pleidleisio heb wynebu rhwystrau. Rydym am sicrhau eich bod yn teimlo eich bod yn cael eich cefnogi wrth fwrw eich pleidlais.
Rydym wedi gwneud yn siŵr:
- Mae gan bob gorsaf bleidleisio fynediad hawdd
- Mae dyfeisiau pleidleisio botymog ar gael i bobl sy'n darllen braille.
- Mae chwyddwydrau ar gael
- Samplau papur pleidleisio mawr
Gallwch ddod â chydymaith gyda chi i'ch cynorthwyo pan fyddwch yn pleidleisio.
Os oes angen cymorth arnoch ar ddiwrnod y bleidlais, gofynnwch am gymorth a bydd staff yr orsaf bleidleisio yn hapus i helpu.