Yng Nghymru gallwch gofrestru i bleidleisio yn 14 oed. Byddwch yn cael eich cadw ar y gofrestr etholiadol nes eich bod yn ddigon hen i bleidleisio.
Mae cofrestru yn 14 oed yn golygu y byddwch yn gallu pleidleisio yn yr etholiad cyntaf ar ôl i chi droi'n 16 oed.
Yn 16 oed, gallwch bleidleisio yn:
-
Etholiadau Senedd Cymru (y Senedd)
- Etholiadau Llywodraeth Leol yng Nghymru
Mae angen i chi fod yn 18 oed i bleidleisio yn Etholiadau Llywodraeth y DU.
Mae hyn yn golygu y gallwch ddweud eich dweud ar bynciau sy'n effeithio arnoch chi a chymryd rhan weithredol yn y broses o wneud penderfyniadau ar gyfer Cymru a'ch ardal leol.