Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Sut i gofrestru i bleidleisio

Cynhelir etholiadau lleol yng Nghymru ar 4 Mai. Gwnewch yn siwˆr eich bod yn gallu cymryd rhan a chofrestrwch i bleidleisio.  


Dim ond y sawl sydd wedi cofrestru a all gymryd rhan yn etholiadau mis Mai. Bydd angen i bobl sy’n byw yng Nghaerdydd sicrhau nad ydyn nhw’n colli’r cyfle i bleidleisio. 


Mae cofrestru’n syml a gallwch wneud cais ar-lein yn https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd mewn ychydig funudau. Bydd angen i chi roi eich dyddiad geni a rhif yswiriant gwladol. 


Os na allwch bleidleisio’n bersonol, gallwch ddweud eich dweud drwy fwrw pleidlais bost neu drwy ddirprwy, lle bydd rhywun rydych yn ymddiried ynddo’n pleidleisio ar eich rhan. Ewch i dybleidlaisdi.co.uk​​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd I gael gwybod sut mae gwneud cais.

Pam y dylech bleidleisio


Wrth bleidleisio, cewch ddweud eich dweud ynghylch materion sy’n effeithio’n uniongyrchol ar fywyd bob dydd yng Nghymru. Mae’n bwysig bod pawb nad yw wedi cofrestru, ac sy’n gymwys i fod ar y gofrestr, wneud hynny. 


Mae posib lawrlwytho ffurflen o'r wefan gofrestru os oes yn well gennych gofrestru gyda ffurflen bapur. Fel arall, gallwch ofyn am ffurflen gan eich tîm Gwasanaethau Etholiadol lleol ar 029 2087 2088. 


Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru am bleidlais fydd dydd Iau 13 Ebrill 2017.

© 2022 Cyngor Caerdydd