Mae pleidlais gymuned yn bleidlais ymhlith pawb sydd ar y gofrestr etholiadol mewn cymuned benodol, ar gwestiwn sy’n effeithio ar y gymuned benodol honno.
Mae modd i etholwyr ofyn am y bleidlais hon mewn cyfarfod cymunedol neu gan gynghorwyr Cymuned yr ardal. Os yw’r cais yn ddilys, rhaid i’r cyngor drefnu pleidlais.
Nid yw canlyniad y bleidlais yn rhwymo’r cyngor i wneud unrhyw beth, ond rhaid i ni ystyried y canlyniad a rhoi gwybod i’r sawl a ofynnodd am y bleidlais beth rydym yn bwriadu ei wneud, os unrhyw beth.
Canllawiau ar Bleidlais GymunedolDolen yn agor mewn ffenestr newydd
Datganiad Canlyniad y Bleidlais