Mae’r Swyddog Canlyniadau cyfrifol yn etholiadau Senedd Cymru a’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn amrywio yn dibynnu ar eu rôl a'u cyfrifoldebau rhanbarthol neu etholaethol.
Swyddogion Canlyniadau Rhanbarthol
Swyddogion Canlyniadau Rhanbarthol sy'n gyfrifol am reoli'r etholiad yn gyffredinol ar gyfer y bleidlais ranbarthol.
Mae pum Rhanbarth Etholiadol ar gyfer y Senedd yng Nghymru:
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
- Gogledd Cymru
- Canol De Cymru
- Dwyrain De Cymru
- Gorllewin De Cymru
Yr ardaloedd pleidleisio o fewn Rhanbarth Canol De Cymru yw:
- Caerdydd
- Rhondda Cynon Taf
- Bro Morgannwg
Swyddogion Canlyniadau Lleol
Mae Swyddogion Canlyniadau Lleol yn gyfrifol am sicrhau bod yr etholiad yn cael ei weinyddu'n effeithiol yn eu hardal bleidleisio.
Swyddog Canlyniadau Lleol Caerdydd: Paul Orders, Cyngor Caerdydd
Swyddogion Canlyniadau Etholaethol (SCE)
Mae'r SCE yn gyfrifol am weinyddu enwebiadau ymgeiswyr yn yr ornest etholaethol, cynnal y bleidlais, a chyfrif pleidleisiau ar gyfer yr etholiad etholaethol a'r rhan honno o'r cynnwys rhanbarthol.
Mae pedair etholaeth yng Nghaerdydd:
- Canol Caerdydd
- Gogledd Caerdydd
- Gorllewin Caerdydd
- De Caerdydd a Phenarth
Swyddog Canlyniadau Lleol Caerdydd: Paul Orders, Cyngor Caerdydd