Rydym am i'n cynghorau fod yn gynrychioliadol o'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu a'r mwyaf yw amrywiaeth y cynghorwyr y gellir ystyried yr ystod ehangach o safbwyntiau yn y ffordd y mae cynghorau'n cynllunio ac yn darparu gwasanaethau. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu mentrau i annog pobl o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol i sefyll etholiadau llywodraeth leol.
Er mwyn ein helpu i fesur y cynnydd sy'n cael ei wneud, mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol gynnal arolwg o ymgeiswyr ym mhob etholiad llywodraeth leol. Nod yr arolwg yw darparu gwybodaeth am y gronfa o bobl sy'n mynd ati i geisio cael eu hethol.
Er nad yw'n ofynnol i chi gwblhau'r arolwg, naill ai'n gyfan gwbl neu'n rhannol, byddwn yn eich annog i wneud hynny. Dim ond drwy eich cefnogaeth chi wrth gyflwyno'r arolwg y gallwn gael dealltwriaeth glir o'r ystod o bobl sy'n cyflwyno eu hunain i fod yn gynghorwyr. Ar gyfer yr etholiad hwn, bydd Data Cymru yn cynnal yr arolwg ar ran awdurdodau lleol yng Nghymru. Yna bydd y data a gesglir ganddynt yn cael ei ddarparu i bob awdurdod lleol a bydd Llywodraeth Cymru yn cael set o ddata dienw ar gyfer Cymru gyfan. Cyhoeddir adroddiad yn seiliedig ar y canlyniadau.