Beth yw Cronfa Mynediad i swyddi etholedig Cymru?
Sefydlwyd y Gronfa er mwyn ceisio dileu’r rhwystrau bydd pobl anabl yn wynebu wrth ymgeisio am swyddi etholedig, wrth ddarparu help ariannol gyda chostau addasiadau a chymorth rhesymol. Gweinyddir y Gronfa gan Anabledd Cymru gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyllido cynllun peilot er mwyn ariannu addasiadau a chymorth rhesymol ar gyfer ymgeiswyr anabl yn etholiad Senedd Cymru 2021 ac etholiadau Llywodraeth Leol 2022.