Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Bod yn Gynghorydd


  • Ydych chi’n angerddol ynghylch eich cymuned leol?
  • Oes yna rywbeth rydych chi am ei newid?
  • Ydych chi’n barod i gymryd penderfyniadau heriol?
  • Beth am sefyll dros yr hyn sy’n bwysig i chi a dod yn gynghorydd lleol? 


Mae cynghorwyr yn cael eu hethol gan bobl yn eu cymuned i’w cynrychioli ac i wneud penderfyniadau ar eu rhan. Mae bod yn gynghorydd yn foddhaol, yn heriol ac yn bleserus a gallwch chi newid bywydau pobl er gwell.

Mae’n bwysig bod cynghorwyr yn debyg i’r bobl sy’n eu hethol er mwyn iddynt gael cynrychioli pob barn wahanol yn y gymuned a chymryd penderfyniadau sydd o fudd i bawb. 


Mae angen i fwy o Fenywod, Pobl o gymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifol ethnig eraill, pobl LGBTQ+, pobl anabl a phobl ifanc sefyll am etholiad yng Nghymru.


Mae’r etholiadau lleol nesaf yn 2027​, dysgwch fwy ar wefan Bod yn Gynghorydd.​​​​​​​​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd

Mae gan gynghorwyr hawl i wahanol fathau o gyflogau, lwfansau a threuliau yn ddibynnol ar y swyddogaethau a'r cyfrifoldebau sydd ganddynt. 


Taliadau i Gynghorwyr (31kb PDF)​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd​​

Os hoffech wybod mwy am fod yn gynghorydd ar gyfer Dinas a Sir Caerdydd a'i wasanaethau gallwch fynychu un o'r cyfarfodydd pwyllgor cyhoeddus neu siarad yn anffurfiol ag un o'r Cynghorwyr neu grwp gwleidyddol cyfredol.

​​

Gofynion Cyfreithiol


Er mwyn cael eich ethol yn Gynghorydd mae'n rhaid i chi:

  • fod yn 18 oed neu'n hŷn ar ddyddiad yr enwebiad
  • fod yn ddinesydd y Gymanwlad, yn ddinesydd cymwysedig y Gymanwlad neu'n ddinesydd Gwladwriaeth arall y Gymuned Ewropeaidd.

ac un o'r canlynol:

  • Rydych wedi cofrestru fel etholwr llywodraeth leol ar gyfer yr awdurdod lleol yr hoffech weithredu ynddi o ddiwrnod eich etholiad ymlaen, a pharhau wedi'ch cofrestru yno.
  • Rydych wedi byw fel perchennog neu denant ar unrhyw dir neu adeilad arall yn ardal yr awdurdod lleol yn ystod y 12 mis cyfan cyn diwrnod eich enwebiad a diwrnod yr etholiad.
  • Mae eich prif neu unig le gwaith yn ystod y 12 mis cyn diwrnod eich enwebiad a diwrnod yr etholiad wedi bod yn ardal yr awdurdod lleol.
  • Rydych wedi byw yn ardal yr awdurdod lleol am y 12 mis cyfan cyn diwrnod eich enwebu a diwrnod yr etholiad.

Ni allwch sefyll fel Ymgeisydd os oes unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol i chi:

  • Rydych yn cael eich cyflogi gan yr awdurdod lleol neu mae gennych swydd ac yn derbyn tâl gan yr awdurdod (gan gynnwys byrddau neu gyd-bwyllgorau).
  • Mae gennych swydd dan gyfyngiadau gwleidyddol.
  • Rydych yn destun gorchymyn cyfyngiadau methdaliad neu orchymyn interim.
  • Rydych wedi cael eich dedfrydu i gyfnod yn y carchar am dri mis neu fwy (gan gynnwys dedfryd ohiriedig), heb y dewis i dalu dirwy, yn ystod y pum mlynedd cyn diwrnod yr etholiad.
  • Rydych wedi cael eich diarddel dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (sy'n cynnwys arferion etholiadol llygredig neu anghyfreithlon yn ymwneud â chyfraniadau) neu dan Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998.

Mae gwybodaeth bellach am y broses o ddod yn gynghorydd a sefyll fel ymgeisydd mewn Etholiad Llywodraeth Leol (gan gynnwys yr amrediad llawn o waharddiadau) ar gael gan y Comisiwn Etholiadol​​​​​​​​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newyddCymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)​​​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd.

​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd