Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Apêl Daeargryn Twrci a Syria

​ Mae daeargrynfeydd dinistriol wedi lladd miloedd o bobl yn Nhwrci a Syria, a channoedd o adeiladau wedi’u dinistrio. Mae goroeswyr yn wynebu amodau rhewllyd ac mae angen cymorth brys arnynt. Gallwch helpu drwy gyfrannu at Apêl y Pwyllgor Argyfyngau Brys​.

Mae miloedd o adeiladau, gan gynnwys ysbytai ac ysgolion, wedi dymchwel ac mae'r isadeiledd wedi ei ddifrodi'n wael. Mae ymatebwyr lleol yn chwilio'n daer drwy'r rwbel am oroeswyr.

Mae pobl wedi cael eu gadael heb gysgod mewn tywydd rhewllyd y gaeaf ac mae yna angen dirfawr am flancedi, lloches brys, bwyd a dŵr glân.

Mae elusennau’r Pwyllgor Argyfyngau Brys a'u partneriaid lleol ymhlith yr ymatebwyr cyntaf sy'n darparu cymorth brys. Y blaenoriaethau ar unwaith yw chwilio ac achub, triniaeth feddygol i'r rhai sydd wedi'u hanafu, lloches i'r rhai sydd wedi colli eu cartrefi, gwresogi mewn mannau diogel, blancedi, dillad cynnes, a sicrhau bod gan bobl fwyd a dŵr glân.

Sut y gallwch chi helpu



Gallwch helpu pobl sydd wedi'u heffeithio gan yr argyfwng drwy roi rhodd a helpu i godi arian at apêl y Pwyllgor Argyfyngau Brys. Bydd hyn yn caniatáu i elusennau’r Pwyllgor Argyfyngau Brys a'u partneriaid lleol gynyddu eu hymateb a chyrraedd mwy o bobl.

  • Gallai £10 ddarparu blancedi i gadw dau berson yn gynnes.
  • Gallai £25 ddarparu bwyd brys i deulu am ddeg diwrnod.
  • Gallai £50 roi lloches frys i ddau deulu.



© 2022 Cyngor Caerdydd