Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc

​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​Mae'r Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc yn adolygu:
  • ​Gwasanaethau Cymdeithasol Plant 
  • Pwyllgor Cynghori Rhianta Corfforaethol 
  • Cynllunio Trefniadaeth Ysgolion, 
  • Gwasanaethau Cymorth Ysgolion, 
  • Cludiant Ysgolion, 
  • Anghenion Addysgol Arbennig, 
  • Gwasanaethau Ieuenctid
  • Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid, a
  • Gwella Ysgolion, 
  • Diogelu, 
  • Cydweithfa Fabwysiadu Ranbarthol, 
  • Gwasanaethau Chwarae, 
  • Gwasanaethau Llywodraethwyr, 
  • Lles a Chynhwysiant Addysgol, 
  • Consortia Addysg, 
  • Datblygiad yn y Blynyddoedd Cynnar,
 

Mae aelodau'r Pwyllgor Craffu yn awyddus i glywed barn a phryderon y rhai sy'n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd. 
​​

Dweud eich dweud ar bynciau sydd o ddiddordeb i chi​.


Video id: piU5cbdSYv8

Fideo o'r Cynghorydd Lee Bridgeman, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc, yn trafod y gwaith a wnaed yn ystod 2020 a 2021.​


Penodwyd Aelodau Pwyllgorau Craffu yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor ar 26 Mai 2022, ac ailddechreuodd Cyfarfodydd Craffu ym mis Mehefin 2022.

Mae Aelodau'r Pwyllgor Craffu wrthi'n datblygu eu blaenraglen waith ar gyfer gweddill 2022-23. Byddant yn cael eu cyhoeddi pan fydd y pwyllgorau wedi cytuno arnynt.

Os hoffech helpu'r Pwyllgor i ddatblygu canlyniadau da i drigolion Caerdydd, gallwch awgrymu eitem i'w chynnwys yn y cynllun nesaf drwy gysylltu â ni.​

Gweler isod am wybodaeth am ymchwiliadau craffu ac adroddiadau ymchwil blaenorol. 

Gallwch hefyd weld papurau cyfarfod pwyllgor.

Am gopïau llawn o'r adroddiadau hyn, cysylltwch â ni.​







Adroddiadau ymchwiliad​​




Weithiau mae Pwyllgorau Craffu yn edrych yn fanwl ar bwnc ac yn anfon adroddiad i'r Cabinet, gydag argymhellion ar sut i wella.

Mae'r Cabinet yn ystyried yr adroddiad ac yn ymateb i'r argymhellion.​


Crynodeb Adroddiad yr Ymchwiliad i Leoliadau y Tu Allan i’r Cyngor (496kb PDF)​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd

  • Lleoliadau y Tu Allan i'r Sir (Mai 2018) 
  • Atal Ymwneud Pobl Ifanc â Delio Cyffuriau - Adroddiad ar y cyd gyda Phwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol ac Oedolion (PCGCO) 
  • Cymorth a Gwasanaethau Iechyd Meddwl a Lles Plant​​

Adroddiadau Ymchwil​​

Rydym yn gwneud gwaith ymchwil annibynnol i lywio gwaith y Pwyllgorau, gan gasglu tystiolaeth gan randdeiliaid ar eu barn a'u profiadau. Rydym hefyd yn adolygu ymchwil ac arfer da sy'n bodoli eisoes i dynnu sylw at waith y gallai Cyngor Caerdydd ddysgu ohono.​

  • Arolwg ar Hyfforddiant a Chymorth i Lywodraethwyr Ysgolion yng Nghaerdydd, 2014
  • Gwybodaeth gymharol am y prosesau atgyfeirio ac asesu mewn awdurdodau lleol dethol yng Nghymru a Lloegr, 2015
  • Arfer Gorau ac Argymelledig wrth Fynd i'r Afael â Chamfanteisio'n Rhywiol ar Blant, 2015


Bob blwyddyn, mae pwyllgorau craffu yn adrodd ar eu gwaith, gan dynnu sylw at y cyfraniadau a gafwyd a'r argymhellion a wnaed.


Mae eu hadroddiadau'n tynnu sylw at effaith craffu a newidiadau a wnaed.

Yn 2020 i 21, ac yn 2021 i 22 datblygodd y pum pwyllgor craffu Adroddiad Blynyddol cyfun.

Gweler Adroddiad Blynyddol Craffu 2021 i 20​22 (5.4mb PDF)​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd
Gweler Adroddiad Blynyddol Craffu 2020 i 20​21 (5.2mb PDF)​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd









© 2022 Cyngor Caerdydd