Penodwyd Aelodau Pwyllgorau Craffu yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor ar 26 Mai 2022, ac ailddechreuodd Cyfarfodydd Craffu ym mis Mehefin 2022.
Mae Aelodau'r Pwyllgor Craffu wrthi'n datblygu eu blaenraglen waith ar gyfer gweddill 2022-23. Byddant yn cael eu cyhoeddi pan fydd y pwyllgorau wedi cytuno arnynt.
Os hoffech helpu'r Pwyllgor i ddatblygu canlyniadau da i drigolion Caerdydd, gallwch awgrymu eitem i'w chynnwys yn y cynllun nesaf drwy gysylltu â ni.
Gweler isod am wybodaeth am ymchwiliadau craffu ac adroddiadau ymchwil blaenorol.
Am gopïau llawn o'r adroddiadau hyn, cysylltwch â ni.
Adroddiadau ymchwiliad
Weithiau mae Pwyllgorau Craffu yn edrych yn fanwl ar bwnc ac yn anfon adroddiad i'r Cabinet, gydag argymhellion ar sut i wella.
Mae'r Cabinet yn ystyried yr adroddiad ac yn ymateb i'r argymhellion.
Crynodeb o ‘Cymorth i Breswylwyr gyda Chostau Byw’ Cyngor Caerdydd (700kb PDF)
- Atal Ymwneud Pobl Ifanc â Delio Cyffuriau (Tachwedd 2018 - adroddiad ar y cyd gyda Phwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc
- Llety Dros Dro ac â Chymorth - Porth Pobl Sengl (Ionawr 2019)
- 'Yn Nes Adref': Lleoliadau y Tu Allan i'r Sir i Oedolion ag Anabledd Dysgu (Chwefror 2021)
- Cymorth Cyngor Caerdydd i Drigolion gyda Chostau Byw (Ionawr 2023)
Adroddiadau Ymchwil
Rydym yn gwneud gwaith ymchwil annibynnol i lywio gwaith y Pwyllgorau, gan gasglu tystiolaeth gan randdeiliaid ar eu barn a'u profiadau. Rydym hefyd yn adolygu ymchwil ac arfer da sy'n bodoli eisoes i dynnu sylw at waith y gallai Cyngor Caerdydd ddysgu ohono.
- Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl’ (2015). Dadansoddiad o Ymatebion i'r Arolwg, 2015
- 'Anghenion Gwybodaeth a Chymorth i Rieni ar y Prosiect "Agosach at Adre" ar gyfer Oedolion Ifanc ag Anableddau Dysgu; 2019.
- Papur Briffio Cefndir ar Droseddau Cyffuriau yng Nghaerdydd a Chymru, 2021
Bob blwyddyn, mae pwyllgorau craffu yn adrodd ar eu gwaith, gan dynnu sylw at y cyfraniadau a gafwyd a'r argymhellion a wnaed.
Mae eu hadroddiadau'n tynnu sylw at effaith craffu a newidiadau a wnaed.
Yn 2020 i 21, ac yn 2021 i 22 datblygodd y pum pwyllgor craffu Adroddiad Blynyddol cyfun.