Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Pwyllgor Craffu Adolygu Polisi a Pherfformiad

​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​Mae Pwyllgor Craffu Adolygu Polisi a Pherfformiad yn adolygu:

  • Comisiynu a Chaffael, 
  • Cyfathrebu, 
  • Datblygu Polisïau Strategol,
  • Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, 
  • Perfformiad, 
  • Adfer ac Adnewyddu Sefydliadol, 
  • Cynllun Datblygu Lleol, 
  • Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethu, 
  • Adnoddau Dynol, 
  • Cyllid, 
  • Ymgynghori a Chyfranogi, 
  • Ymgysylltu, 
  • Cydraddoldeb, 
  • TGCh a Gwasanaethau Cwsmeriaid, 
  • Digidol, 
  • Eiddo ac Ystadau'r Cyngor,
  • Cynllun Corfforaethol, 
  • Lleoliadau.


 

Mae aelodau Pwyllgor Craffu yn awyddus i glywed barn a phryderon y rhai sy'n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd. 

Dweud eich dweud ar bynciau sydd o ddiddordeb i chi.​


 
 

​​

Fideo o'r Cynghorydd David Walker, Cyn-Gadeirydd y Pwyllgor Adolygu Polisi a Pherfformiad, yn trafod y gwaith a wnaed yn ystod 2020 a 2021.

Penodwyd Aelodau Pwyllgorau Craffu yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor ar 26 Mai 2022, ac ailddechreuodd Cyfarfodydd Craffu ym mis Mehefin 2022.

Mae Aelodau'r Pwyllgor Craffu wrthi'n datblygu eu blaenraglen waith ar gyfer gweddill 2022-23. Byddant yn cael eu cyhoeddi pan fydd y pwyllgorau wedi cytuno arnynt.

Os hoffech helpu'r Pwyllgor i ddatblygu canlyniadau da i drigolion Caerdydd, gallwch awgrymu eitem i'w chynnwys yn y cynllun nesaf drwy gysylltu â ni.​​​


Gweler isod am wybodaeth am ymchwiliadau craffu ac adroddiadau ymchwil blaenorol. 

Gallwch hefyd weld papurau cyfarfod pwyllgor.

Am gopïau llawn o'r adroddiadau hyn, cysylltwch â ni.​


​ ​​



Adroddiadau ymchwiliad​​




Weithiau mae Pwyllgorau Craffu yn edrych yn fanwl ar bwnc ac yn anfon adroddiad i'r Cabinet, gydag argymhellion ar sut i wella.

Mae'r Cabinet yn ystyried yr adroddiad ac yn ymateb i'r argymhellion.​


Crynodeb o adroddiad ymchwiliad Arweinyddiaeth Cwsmeriaid (555kb PDF)​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd

  • Rheoli'r Ystâd dan Fodel Landlord Corfforaethol (Mai 2018)
  • Arweinyddiaeth Cwsmeriaid (Mai 2018) 
  • Absenoldeb Salwch – craffu byr ac ymchwil (Medi 2018) 
  • Model Asesu Effaith Craffu (Mai 2020)​


Adroddiadau Ymchwil​​

Rydym yn gwneud gwaith ymchwil annibynnol i lywio gwaith y Pwyllgorau, gan gasglu tystiolaeth gan randdeiliaid ar eu barn a'u profiadau. Rydym hefyd yn adolygu ymchwil ac arfer da sy'n bodoli eisoes i dynnu sylw at waith y gallai Cyngor Caerdydd ddysgu ohono.​

  • Arferion meincnodi a dichonoldeb, 2014
  • Adolygiad o Effaith Craffu Cyngor Caerdydd gan ddefnyddio dangosyddion canlyniadau CFPS, 2018
  • Methodolegau ar gyfer Asesu Effaith Craffu, 2019​

Bob blwyddyn, mae pwyllgorau craffu yn adrodd ar eu gwaith, gan dynnu sylw at y cyfraniadau a gafwyd a'r argymhellion a wnaed.


Mae eu hadroddiadau'n tynnu sylw at effaith craffu a newidiadau a wnaed.

Yn 2020 i 21, ac yn 2021 i 22 datblygodd y pum pwyllgor craffu Adroddiad Blynyddol cyfun.

Gweler Adroddiad Blynyddol Craffu 2021 i 20​22 (5.4mb PDF)​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd
Gweler Adroddiad Blynyddol Craffu 2020 i 20​21 (5.2mb PDF)​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd








© 2022 Cyngor Caerdydd