Sut i’n talu ni
Os oes angen i ni eich talu chi
Sut i’n talu ni
Os cawsoch anfoneb neu fil gan y Cyngor, mae sawl ffordd y gallwch ein talu ni:
Gwneud taliad ar-lein
Defnyddiwch ein system talu ar-lein ddiogel i gwneud taliad i'r cyngor.
Os ydych wedi derbyn Anfoneb Cyfrifon Derbyniadwy, cadwch wrth law y rhif 10 digid o hyd sy'n dechrau gyda '18'.
Bancio ar y rhyngrwyd
Mae manylion cyfrif banc y Cyngor fel a ganlyn:
Lloyds Bank
Cod Didoli: 30-91-63
Rhif y Cyfrif: 01467509
Sicrhewch eich bod yn nodi rhif eich anfoneb.
Dros y Ffôn
Ffoniwch C2C ar 029 2087 2088. Pwyswch Dewis 1 ar gyfer Taliadau’r Cyngor a dilynwch y cyfarwyddiadau.
Sicrhewch fod gennych eich cerdyn credyd neu ddebyd wrth law, ac os ydych yn talu anfoneb, sicrhewch fod rhif yr anfoneb gennych – sef y rhif deg digid sy’n dechrau â 18********.
Drwy’r Post
Gallwch anfon siec neu archeb post yn daladwy i Gyngor Caerdydd i:
Cyngor Caerdydd
Blwch SP 9000
Caerdydd
CF10 3ND
Nodwch rif eich anfoneb ar gefn y siec neu'r archeb bost. Os oes angen derbynneb arnoch, anfonwch yr anfoneb lawn gyda’ch taliad, neu fel arall dim ond y bonyn ar y gwaelod sydd angen i chi ei amgáu.
Yn Swyddfa’r Post neu safle Paypoint
Bydd angen i chi gyflwyno eich anfoneb.
Mae manylion banc y Cyngor fel a ganlyn:
Lloyds Bank PLC
1 Heol-y-Frenhines
Caerdydd
CF10 2AF
Cod Didoli: 30-91-63
Rhif y Cyfrif: 01467509
Ymholiadau ynghylch Taliadau
Os oes cwestiwn gennych am y gwasanaeth rydym wedi codi tâl arnoch amdano, dylech gysylltu â’r gwasanaeth a anfonodd yr anfoneb yn y lle cyntaf. Bydd eu manylion cyswllt ar frig yr anfoneb.
Os oes unrhyw gwestiynau gennych am sut i dalu anfoneb neu fil, neu os ydych yn cael anhawster talu, ffoniwch ni ar unwaith ar 029 2087 2224 er mwyn i ni allu trafod y dewisiadau talu sydd ar gael.
Mae anfonebau yn cynnwys rhif cwsmer 6 digid y bydd angen i chi ei nodi pan fyddwch yn cysylltu â ni.
Yn ôl i'r brig
Os oes angen i ni eich talu chi
Os ydych yn fusnes sy’n aros i ni dalu anfoneb, siaradwch â’r gwasanaeth y gwnaethoch ddarparu’r nwyddau neu’r gwasanaeth iddo yn y lle cyntaf. Sicrhewch fod y rhif archeb brynu gennych cyn i chi gysylltu â nhw.
Os ydych yn fusnes sy’n aros i ni dalu anfoneb, siaradwch â’r gwasanaeth y gwnaethoch ddarparu’r nwyddau neu’r gwasanaeth iddo yn y lle cyntaf. Sicrhewch fod y rhif archeb brynu gennych cyn i chi gysylltu â nhw.
Caiff anfonebau eu talu drwy sieciau sydd wedi’u croesi, y gellir eu ‘hagor’ drwy drefniant arbennig. Mewn amgylchiadau penodol gellir casglu sieciau o Neuadd y Sir yn hytrach na thrwy’r post. Os ydych am wneud cais ar gyfer unrhyw un o’r opsiynau hyn, a chael rhagor o wybodaeth am ba dystiolaeth adnabod sydd ei hangen, cysylltwch â ni ar 029 2087 2359.
Yn ôl i'r brig