Pryd mae modd cyflwyno hawliad yn erbyn y Cyngor?
Er mwyn llwyddo i hawlio iawndal gan y Cyngor, bydd angen i chi brofi’n gyfreithiol bod y Cyngor wedi bod ar fai. Does dim hawl awtomatig i gael iawndal, ac nid yw'r ffaith bod damwain yn digwydd yn golygu y bydd y Cyngor ar fai.
Yswiriant Arall
Os oes gennych Yswiriant Cynnwys Cartref, Adeiladau neu Yswiriant Cerbyd y byddai’r colled/niwed yn berthnasol iddo, rydym yn argymell eich bod chi’n cyflwyno hawliad mewn perthynas â’r polisi priodol gyntaf. Mae hyn oherwydd mae’n debygol y bydd setliad ar sail “newydd am hen” ac ni fydd angen i chi brofi bod unrhyw un ar fai am y colled, felly mae’n debygol y bydd yr hawliad yn cael ei ddatrys yn gynt. Yna, mae’n bosibl y bydd yr yswirwyr yn ceisio adfer eu costau gan y Cyngor os ydynt o'r farn bod y Cyngor ar fai. Mae adferiad llwyddiannus gan eich yswirwyr yn golygu na fydd yn debygol i’ch premiwm a disgownt dim hawliad gael eu heffeithio.
Pa wybodaeth sy’n rhaid i chi ei darparu wrth hawlio?
Rhaid i chi ddarparu’r wybodaeth ganlynol:
- Crynodeb eglur o’r ffeithiau y mae’r hawliad yn berthnasol iddynt gan gynnwys amser a dyddiad y
digwyddiad.
- Cyfeiriad at natur a graddfa eich anaf(iadau) a/neu fanylion am unrhyw ddifrod i eiddo
- Manylion am unrhyw golledion ariannol a ddioddefwyd
- Gwybodaeth arall ddigonol i alluogi rhoi cychwyn ar ymchwiliadau ffurfiol, e.e. ffotograffau. Dylai unrhyw ffotograffau o’r digwyddiad ddangos y nam a’r ardal o’i amgylch yn eglur. Rhowch ‘X’ wrth y nam penodol a dangos y cyfeiriad roeddech chi’n tethio. Os nad oes ffotograffau ar gael, efallai y byddwch am ddefnyddio gwasanaethau mapiau ar-lein i nodi’r union leoliad. Gallai rhif y tŷ agosaf neu’r golau stryd agosaf hefyd fod o gymorth.
- Heb y wybodaeth hon, ni fydd modd prosesu’r hawliad.
Beth sy’n digwydd unwaith y byddwch wedi cyflwyno hawliad?
Bydd yr Is-adran Yswiriant a Rheoli Risg yn cydnabod ei fod wedi derbyn eich hawliad o fewn 15 diwrnod gwaith ac o bosibl yn anfon yr hawliad ymlaen at swyddogion hawliadau yswiriant allanol y Cyngor. Bydd y swyddogion hawliadau yn cydnabod eu bod wedi derbyn yr hawliad o fewn 5 diwrnod gwaith.
Bydd y Cyngor yn ymchwilio i’r honiadau ac yn anfon adroddiad at y swyddogion hawliadau.
Caiff hawliadau eu prosesu cyn gynted â phosibl bob tro, fodd bynnag, mae’r gyfraith yn caniatáu hyd at 3 mis i ymchwilio i hawliadau anafiadau personol a phennu a oedd bai o gwbl ar y Cyngor. Er nad oes cyfyngiad amser o’r fath ar hawliadau’n ymwneud ag eiddo yn unig, bydd y Cyngor yn ceisio gwneud penderfyniad ar atebolrwydd o fewn 3 mis.
Os yw’r hawliad yn ymwneud â difrod i’ch eiddo, bydd y swyddogion hawliadau angen derbynebau gwreiddiol neu ragamcan o bris disodli a chadarnhad o oedran yr eitemau. Sylwch na fydd unrhyw gynnig setliad ar sail newydd am hen ac yn yr un modd bydd yn cael ei addasu os yw’r offer wedi gwisgo.
Yn ogystal â’r wybodaeth a nodir uchod, mae’n bosibl y bydd y swyddogion hawliadau'n gofyn i chi nodi eich enw llawn, dyddiad geni a rhif yswiriant gwladol os nad ydych wedi’u rhoi yn barod.
Os yw’r hawliad ar gyfer anaf, bydd angen tystiolaeth feddygol. Bydd y swyddogion hawliadau’n anfon ffurflen i’w chwblhau er mwyn eu galluogi nhw i ofyn i'r meddyg teulu/ysbyty am adroddiad. Sylwch y gall yr amser mae'n cymryd i dderbyn yr adroddiad amrywio'n helaeth ac mae'n rhywbeth nad oes modd ei reoli heblaw am gyflwyno negeseuon atgoffa rheolaidd. Wrth gwrs, yn yr achos hwn, mae gennych hawl i drafod y mater â’r meddyg teulu/ysbyty.
Os nad yw’r adroddiad meddyg teulu/ysbyty yn ddigonol i asesu gwerth eich anafiadau’n gywir, mae’n bosibl y bydd rhaid i’r swyddogion hawliadau benodi ymgynghorydd allanol y bydd angen eich asesu er mwyn paratoi adroddiad cynhwysfawr. Gall y broses hon fod yn hirfaith a chymryd sawl mis.
Y canlyniad terfynol
Unwaith y mae’r holl dystiolaeth wedi’i chasglu a’i hasesu, bydd y swyddogion hawliadau’n gwneud penderfyniad ar atebolrwydd cyfreithiol y Cyngor:
- Os gwneir penderfyniad nad oes atebolrwydd ac nid yw’r swyddogion hawliadau’n talu’r hawliad, byddwch yn derbyn llythyr yn egluro pam. Bydd angen cysylltu â’r swyddogion hawliadau os ydych am drafod hyn ymhellach.
- Os derbynnir yr atebolrwydd, bydd y swyddogion hawliadau’n cynnig iawndal, yn ysgrifenedig, y maent yn ystyried sy’n adlewyrchu’n gywir lefel briodol o iawndal o ystyried yr amgylchiadau.
Twyll
Bydd unrhyw hawliad sydd wedi'i nodi'n dwyllgar neu wedi'i orliwio, boed hynny'n ystod prosesu'r cais neu ar ôl hynny, o bosibl yn cael ei basio ymlaen at yr Heddlu a/neu Gwasanaeth Erlyn y Goron a gall fod yn amodol ar erlyniad troseddol.