Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Archwilio cyfrifon yr heddlu 2021/2022

13 Mai 2022

Rhoddir rhybudd drwy hyn yn unol ag Adrannau 29 a 30 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (ac fel y manylir ymhellach yn Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014):

1.    O 13 Mehefin 2022 hyd at 8 Gorffenaf 2022 yn gynwysedig, rhwng 10:00 a.m. a 5:00 p.m. (dydd Llun i ddydd Iau yn unig) a rhwng 10:00 a.m. a 4:00 p.m. (dydd Gwener yn unig), gall unrhyw un sydd â diddordeb, drwy wneud cais i’r Adran Gyllid, Pencadlys yr Heddlu, Heol y Bontfaen, Penybont-ar-Ogwr, arolygu a gwneud copïau o gyfrifon Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a chyfrifon Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru am y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2022 ynghyd â phob llyfr, gweithred, contract, bil, taleb a derbynneb sy’n berthnasol iddynt. Er mwyn ein cynorthwyo i wneud trefniadau priodol oherwydd COVID-19, byddai o gymorth pe gallai unrhyw un sydd â diddordeb ein hysbysu ymlaen llaw eu bod yn bwriadu archwilio’r cyfrifon a dogfennau.

2.    Am 9:00 a.m. ar 11 Gorffenaf 2022 neu wedi hynny, bydd yr Archwilydd Penodedig, Adrian Crompton, o 24 Cathedral Road, Caerdydd CF11 9LJ ym Mhencadlys yr Heddlu De Cymru, Heol y Bontfaen, Penybont-ar-Ogwr, CF31 3SU, (ac wedi hynny hyd nes y bydd yr Archwilydd yn ardystio bod yr Archwiliad wedi’i gwblhau), ar gais unrhyw etholwr llywodraeth leol o’r ardal y mae cyfrifon o’r fath yn berthnasol iddo, neu ei gynrychiolydd/ei chynrychiolydd, yn rhoi cyfle iddynt ei holi am y cyfrifon a gall unrhyw etholwr o’r fath neu ei gynrychiolydd/ei chynrychiolydd ddod gerbron yr Archwilydd a chynnig gwrthwynebiadau:

i.     ynglŷn ag unrhyw fater y gallai’r Archwilydd weithredu arno yn unol ag Adrannau 17 neu 18 o’r Ddeddf (sef eitem cyfrif anghyfreithlon, methu ag ystyried swm, neu golled neu ddiffyg a achoswyd gan gamymddwyn bwriadol)

ii.     ynglŷn ag unrhyw fater y gallai’r Archwilydd adrodd arno er lles y cyhoedd o dan Adran 22 o’r Ddeddf.

3.    Ni ellir gwneud unrhyw wrthwynebiad o’r fath oni bai bod yr Archwilydd wedi derbyn rhybudd ysgrifenedig yn flaenorol o’r gwrthwynebiad a sail y gwrthwynebiad; a bod copi o rybudd o’r fath yn cael ei anfon at y sawl a enwir isod.

4.    Oherwydd y sefyllfa bresennol mewn perthynas â Covid 19, mae’n bosibl y gall y dyddiadau yn yr hysbysiad hwn newid. Bydd unrhyw newid yn y dyddiadau’n cael ei gyhoeddi ar ein gwefan


Peter Curran
Prif Swyddog Cyllid
Swyddfa Comisiynydd Heddlu A Throsedd De Cymru​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd   


Umar Hussain
Prif Swyddog Cyllid Heddlu De Cymru

Pencadlys Heddlu De Cymru
Heol y Bontfaen
Penybont-ar-Ogwr
CF31 3SU

© 2022 Cyngor Caerdydd