Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Archwiliad mewnol

​​​​​​​​​​​​​​​​​​​Mae archwiliadau mewnol yn diogelu Cyngor Caerdydd drwy roi sicrwydd, cyngor a mewnwelediad gwrthrychol yn seiliedig ar risg. 

Siarter Archwilio 


Mae’r Siarter Archwilio Fewnol yn sicrhau sefyllfa Archwilio Mewnol yn y sefydliad, perthynas adrodd y Rheolwr Archwilio â’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, hawliau mynediad a chwmpas ein gwasanaethau archwilio mewnol. 

Mae hefyd yn nodi mae gwasanaethau archwilio’n cael eu cyflawni’n unol â Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus (SAMSC), sy’n cwmpasu elfennau gorfodol y Fframwaith Ymarferon Proffesiynol Rhyngwladol (‘Diffiniad Archwiliad Mewnol’, ‘Egwyddorion Craidd’, ‘Safonau’ a ‘Chodau Moeseg’.)

Diben



Un o’r prif ofynion sydd ar y Tîm Archwilio yw darparu cynllun o weithgareddau archwilio sicrwydd, sy’n ddigonol at ddibenion cyhoeddi barn flynyddol y Rheolwr Archwilio ar amgylchedd rheoli’r Cyngor, yn cynnwys llywodraethiant, rheoli risg a rheolaeth. Mae’r Tîm Archwilio hefyd yn rhoi sicrwydd craidd i’r Swyddog Adran 151 a’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio​, mewn perthynas â’u cyfrifoldebau nhw.   

Mae’r Tîm Archwilio hefyd yn cynnig gwasanaethau ymgynghori neu gynghori, yn gyffredinol ar gais y Tîm Rheoli am fewnwelediad annibynnol ac arweiniad ar feysydd rheoli yn ystod cyfnodau o ddatblygu / newid prosesau. Y nod yw rhoi gwerth trwy unioni’r Cynllun Archwilio â strategaethau, amcanion a risgiau’r Cyngor a thrwy gynnig sicrwydd archwilio a chymorth cadarn. 

Mae’r Tîm Ymchwilio yn gwneud ystod o waith rhagweithiol ac ymatebol i atal a chanfod twyll. Mae’n cynorthwyo rheolwyr i ddatblygu a chynnal diwylliant o ddeall trwy’r sefydliad bod twyll, llwgrwobrwyo a llygredd yn annerbyniol ac y gweithredir yn gadarn i atal a chanfod colledion twyll, dwyn twyllwyr i gyfrif yn gyflym ac yn effeithiol, ac adennill unrhyw golledion.   

Yr amddiffyniad cyntaf yw’r amgylchedd rheoli mewnol ym mhob cyfarwyddiaeth, sy’n gofyn am ddiwylliant o atebolrwydd, dim goddef twyll a gweithredu dulliau rheoli yn gadarn.

Adroddiad Blynyddol

 
Bob blwyddyn, mae'r Rheolwr Archwilio yn cynhyrchu Adroddiad Blynyddol Archwilio Mewnol, sy'n amlinellu asesiad a barn y Rheolwr Archwilio, ar amgylchedd rheoli'r Cyngor. Mae'r adroddiad yn manylu ar y gwaith archwilio a gwblhawyd i ategu’r farn, ac yn rhoi gwybodaeth am berfformiad y Gwasanaeth Archwilio, ac adroddiad ac asesiad o gydymffurfiad parhaus â'r SAMSC.

Adroddiadau Cynnydd Archwilio

Mae Adroddiadau Cynnydd Archwilio Mewnol rheolaidd yn nodi perfformiad mewn perthynas â'r Cynllun Archwilio Mewnol. Maent yn crynhoi’r gwaith a wnaed, yr argymhellion blaenoriaeth a godwyd, y canfyddiadau sy’n gofyn am sylw brys, tueddiadau sy’n dod i’r amlwg, a chanfyddiadau gwerth am arian perthnasol ym mhob rhan o’r Cyngor. Mae adroddiad crynodeb gweithredol ynghlwm wrth yr Adroddiad Cynnydd Archwilio perthnasol ar gyfer unrhyw ymgysylltiad archwilio lle darperir barn archwilio sicrwydd 'anfoddhaol' dros y cyfnod adrodd.   

Mae’r wybodaeth a geir yn y dogfennau hyn wedi’u dylunio i’w hargraffu. Mae’n bosib na fydd modd gweld popeth ar-lein.
​​


 
​​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd