O dydd Mercher 20 Gorffennaf 2022 i dydd Mawrth 16 Awst 2022 mae’r Datganiadau Cyfrifon drafft a’r Cyd-bwyllgorau, lle taw ni yw’r corff atebol, ar gael i’r cyhoedd eu harchwilio rhwng 9:30am a 3:30pm. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y ddolen isod. Mae hyn hefyd yn cynnwys eich hawl i ofyn cwestiynau i archwilydd y Cyngor mewn perthynas â’r dydd Mawrth 30 Awst 2022.
Mae’r Cyngor yn cyhoeddi ei Ddatganiad Cyfrifon (yn cynnwys Awdurdod Harbwr Caerdydd).
Mae’r cyfrifon yn rhoi gwybodaeth am ein gweithgareddau ariannol yn ystod y flwyddyn, ac asedau a rhwymedigaethau ar ddiwedd y flwyddyn. Caiff y cyfrifon eu harchwilio’n annibynnol gan
Archwilio CymruDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd
Mae datganiad cyfrifon Cyngor drafft Caerdydd, Awdurdod Harbwr Caerdydd a Chronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg ynghyd ag Awdurdod Iechyd Porthladd Caerdydd a’r tri chydbwyllgor lle mae Cyngor Caerdydd yn awdurdod arweiniol Archifau Morgannwg, Prosiect Gwyrdd a Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ar gael isod yn Saesneg. Yn dilyn cwblhau’r broses archwilio, bydd dogfennau a archwiliwyd ar gael yn y Gymraeg.
Ar gyfer Cyngor Caerdydd a Awdurdod Harbwr Caerdydd, Chronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg a Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
mae Rheoliad 10(1) o Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (fel y'i diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol i Swyddog Ariannol Cyfrifol Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd lofnodi a dyddio'r datganiad cyfrifon, ac ardystio ei fod yn rhoi darlun cywir a theg o sefyllfa ariannol y corff ar ddiwedd y flwyddyn y mae'n berthnasol iddi ac o incwm a gwariant y corff hwnnw am y flwyddyn honno. Roedd y Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol cwblhau hyn erbyn 31 Mai 2022. Llofnododd ac ardystiodd y Swyddog Ariannol Cyfrifol y cyfrifon ar 22 Mehefin 2022.
Mae rheoliad 10(2) o Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (fel y'i diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol, yn dilyn ardystiad y Swyddog Ariannol Cyfrifol y cyfeirir ato uchod, fod Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd yn cymeradwyo ac yn cyhoeddi'r datganiad cyfrifon a archwiliwyd. Roedd y Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol cwblhau hyn erbyn 31 Gorffennaf 2022. Oherwydd effaith barhaus COVID-19, nid yw'r archwiliad o ddatganiad cyfrifon 2021/22 wedi'i gwblhau eto ac nid oes barn archwilio wedi'i chynnig. Y datganiad cyfrifon a gyhoeddir yw'r datganiad cyfrifon nas archwiliwyd.
Cyngor Caerdydd yn cynnwys Awdurdod Harbwr Caerdydd
Cronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg
Datganiad Llywodraethu Blynyddol
Cyngor Caerdydd yw awdurdod arweiniol Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Swyddfa Cofnodion Morgannwg, Prosiect Gwyrdd a Awdurdod Iechyd Porthladd Caerdydd. Daeth Consortiwm Prynu Cymru i ben ar 31 Mawrth 2016, mae cyfrifon ar gael hyd at flwyddyn ariannol 2015/16.
Cytundeb Dinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
Cydbwyllgor Corfforaethol De-ddwyrain Cymru
Archifau Morgannwg
Prosiect Gwyrdd
Awdurdod Iechyd Porthladd Caerdydd
O 2019/20, mae ffurflen Awdurdod Iechyd Porthladd Caerdydd ar gael fel dogfen ar wahân, cyn hyn cafodd ei hymgorffori yn Natganiad Cyfrifon y Cyngor .
Bydd y ffurflen archwiliedig derfynol yn cael ei chymeradwyo yn y Cyngor gyda Datganiad Cyfrifon y Cyngor.
Cyfrifoldeb y Swyddog Cyfrifeg/Swyddog Cleient yw cynnal gwefan Cyngor Dinas Caerdydd; nid yw’r gwaith a wneir gan archwilwyr yn cynnwys ystyried y materion hyn ac o ganlyniad nid yw archwilwyr yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw newidiadau a allai fod wedi digwydd i’r datganiadau ariannol ers iddynt gael eu cyflwyno yn y lle cyntaf ar y wefan.
Rheoli Risgiau Ariannol
Mae gan y Cyngor ddull gweithredu rhagweithiol o ran rheoli risg sy’n ein helpu ni i fanteisio i’r eithaf ar ein hadnoddau.
Mae cyfrifoldeb statudol arnom i archwilio, gwerthuso a monitro sut rydym yn defnyddio ein hadnoddau, yn cynnwys ein cyllid, a gwneir y gwaith hwn gyda chymorth Archwilwyr Mewnol.
Mae’r Archwilwyr Mewnol yn rhoi cyngor ac arweiniad ar ddatblygu mesurau cadarn i fonitro a rheoli risg, helpu i nodi gwelliannau, a sicrhau cydymffurfiaeth â’r rheolau a’r rheoliadau. Maent hefyd yn helpu i ymdrin ag atal, canfod ac ymchwilio i achosion o dwyll a amheuir neu gamweinyddu ariannol.
Gwasanaeth Archwilio Mewnol a Gwrth Dwyll
Mae'r tîm Archwilio Mewnol yn rhoi sicrwydd, cyngor a mewnwelediad gwrthrychol sy'n seiliedig ar risg. Rhagor o wybodaeth am
Archwilio Mewnol.
Mae’r Tîm Ymchwilio yn gwneud ystod o waith rhagweithiol ac ymatebol i atal a chanfod twyll. Mae’n cynorthwyo rheolwyr i ddatblygu a chynnal diwylliant o ddeall trwy’r sefydliad bod twyll, llwgrwobrwyo a llygredd yn annerbyniol ac y gweithredir yn gadarn i atal a chanfod colledion twyll, dwyn twyllwyr i gyfrif yn gyflym ac yn effeithiol, ac adennill unrhyw golledion. Rhagor o wybodaeth am
dwyll. Yswiriant
Mae holl asedau ffisegol y Cyngor – megis adeiladau, cerbydau a pheiriannau – wedi’u hyswirio, ac mae yswiriant atebolrwydd gennym hefyd ar gyfer colledion ariannol a allai ddigwydd yn sgîl difrod neu anafiadau a achosir gan y Cyngor, ei gyflogeion neu bobl eraill sy’n gweithredu ar ei ran, os dyfernir mai’r Cyngor sydd ar fai.
Mae ein hadran Yswiriant yn cydlynu’r gwaith o ymdrin â phob hawliad yswiriant a wneir gan y Cyngor neu yn erbyn y Cyngor. Os oes gennych ymholiad cyffredinol am yswiriant y Cyngor neu os ydych am wneud hawliad cysylltwch â ni.
Darllenwch fwy am
wneud hawliad yn erbyn y Cyngor.
Caiff pob hawliad ei asesu’n unigol ac yn deg, a lle bod hawliadau yn gyfreithlon, ein nod yw eu talu cyn gynted â phosibl. Fodd bynnag, nid oes unrhyw hawl awtomatig i gael iawndal – bydd angen i chi brofi mai’r Cyngor oedd ar fai yn unol â’r gyfraith.
Os oes angen dogfennau arnoch wedi eu dyddio cyn 2018 yna cysylltwch â ni.
029 20872247
Gallwch ysgrifennu at y cyfeiriad canlynol hefyd:
Blwch SP 9000
Caerdydd
CF10 3ND