Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Ariannu’r Cyngor

​​​​​​​​​​Daw arian y Cyngor o ffynonellau amrywiol, yn cynnwys grant gan Lywodraeth Cymru, ardrethi busnes a’r Dreth Gyngor.

 

Mae’r flwyddyn ariannol yn rhedeg o fis Ebrill i fis Mawrth, ond mae’r broses gynllunio yn dechrau yn yr haf blaenorol pan fyddwn yn asesu cost ymrwymiadau a mentrau newydd ar gyfer y flwyddyn nesaf.

 

Ddiwedd yr hydref, mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei Setliad Dros Dro, sy’n rhoi arwydd o faint y grant a lefel yr ardrethi busnes y gallwn eu disgwyl ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Mae hyn dros 75% o gyfanswm ein hincwm.


 
Mae lefel y grant yn seiliedig ar Asesiad o Wariant Sa​​fonol (SSA) y Cyngor sy’n amlinellu faint y mae Llywodraeth Cymru o’r farn y dylem ei wario.

 

Caiff ardrethi busnes eu casglu’n lleol ond cânt eu gweinyddu ar sail Cymru gyfan. Yng Nghaerdydd, rydym yn cadw ychydig dros hanner cyfanswm yr ardrethi busnes a gesglir gennym ar hyn o bryd.

 

Ym mis Rhagfyr mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei Setliad Terfynol.

 

Ym mis Chwefror mae’r Cyngor yn cytuno ar y gyllideb ac yn pennu lefel y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Mae Llais y Ddinas yn amlinellu o lle y daw arian y Cyngor ar gyfer y flwyddyn ganlynol ac ar beth y caiff ei wario, yn cynnwys cyfraniadau i Heddlu De Cymru a chynghorau cymuned.

 

Ar ddiwedd y flwyddyn, rydym yn rhoi cyfrif am ein gwariant yn ystod y flwyddyn flaenorol yn y Datganiad o Gyfrifon, a gaiff ei arddangos yn gyhoeddus a’i archwilio’n annibynnol gan Swyddfa Archwilio Cymru.

 


© 2022 Cyngor Caerdydd