Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Sul y Cofio

​​​​​Bydd defod genedlaethol Sul y Cofio yng Nghymru yn cael ei chynnal ar y cyd rhwng Cyngor Caerdydd, Llywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth â'r Lleng Brydeinig Frenhinol, ddydd Sul 12 Tachwedd 2023.


Bydd carfannau o’r Llynges Frenhinol, y Fyddin a'r Llu Awyr Brenhinol, y Llynges Bysgota a’r Cadetiaid yn gorymdeithio heibio Neuadd y Ddinas ac ar hyd Rhodfa'r Brenin Edward VII at Gofeb Ryfel Genedlaethol Cymru yng Ngerddi Alexandra, Parc Cathays, Caerdydd lle byddant yn cyrraedd erbyn 10:40am ac yn ymgynnull o amgylch y gofeb.

Yn ymuno â nhw fydd colofnau o gyn-aelodau’r Lluoedd, wedi'u trefnu gan y Lleng Brydeinig Frenhinol a cholofnau o sifiliaid yn cynrychioli sefydliadau sy'n gysylltiedig â gwrthdaro yn y presennol a'r gorffennol.

Bydd detholiad o gerddoriaeth yn cael ei chwarae gan Fand Byddin Yr Iachawdwriaeth Treganna o 10:30am tan ychydig cyn 11am, pan fydd y gwasanaeth yn dechrau gyda galwad a gair o’r Ysgrythur gan Gaplan Anrhydeddus Cyngor Caerdydd, y Parchedig Ganon Stewart Lisk. Bydd Côr Gwragedd Milwrol Caerdydd a Chôr Meibion Parc yr Arfau yn arwain y canu yn ystod y gwasanaeth.

Am 10:59am bydd biwglwr o Fand Catrawd Brenhinol Cymru a Chorfflu Drymiau'r Cymry Brenhinol yn seinio'r 'Caniad Olaf' wedi ei ddilyn am 11am gan daniad gwn gan Gatrawd 104 y Magnelwyr Brenhinol, Casnewydd i nodi dechrau cadw'r ddwy funud o dawelwch. Bydd tanio'r gwn unwaith eto yn nodi’r terfyn a’r Biwglwr yn chwarae’r 'Reveille'.

Bydd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, a Phrif Weinidog Cymru, Mark Drakeford AoS, yn ymuno â chyfranogwyr eraill i osod torchau yng Nghofeb Ryfel Genedlaethol Cymru.

Bydd Band y Cymry Brenhinol a Chorfflu Drymiau'r Cymry Brenhinol yn chwarae anthemau cenedlaethol Cymru a Phrydain Fawr ar ddiwedd y seremoni.  Caiff Aelodau'r cyhoedd hefyd osod torchau wrth y Gofeb Genedlaethol ar ôl y gwasanaeth.

Ar ddiwedd y gwasanaeth, bydd yr holl gyfranogwyr a gwesteion yn ymgynnull o flaen Neuadd y Ddinas i weld yr Orymdaith a’r Saliwt gan Arglwydd Raglaw EF, ochr yn ochr ag Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Bablin Molik.

Tua diwedd mis Hydref, arweiniodd Arglwydd Faer Caerdydd deyrngedau'r ddinas i'r rhai yn y Lluoedd Arfog a gollodd eu bywydau mewn dau ryfel byd a gwrthdaro arall, yn agoriad y Maes Coffa ar dir Castell Caerdydd.

Mae’r Maes Cofio wedi dod yn draddodiad blynyddol yn y ddinas.  Bydd hyn ar dir Castell Caerdydd a bydd yn cau ar 15 Tachwedd. Yr oriau agor yw 9am hyd 5pm ac mae mynediad am ddim i aelodau'r cyhoedd.


Trefn y gwasanaeth yng Ngerddi Alexandra, Parc Cathays 

  • 10:30am - Detholiad o gerddoriaeth yn cael ei chwarae gan Fand Byddin Yr Iachawdwriaeth Treganna.
  • 10:40am - Bydd carfannau o’r Llynges Frenhinol, y Fyddin a'r Llu Awyr Brenhinol, y Llynges Bysgota a’r Cadetiaid yn cyrraedd'
  • 10:59am - Bydd biwglwr yn seinio'r 'Caniad Olaf'.
  • 11am - Taniad gwn gan Gatrawd 104 y Magnelwyr Brenhinol, Casnewydd i nodi dechrau cadw'r ddwy funud o dawelwch. Bydd tanio'r gwn unwaith eto yn nodi’r terfyn a’r Biwglwr yn chwarae’r 'Reveille'. Bydd y gwasanaeth yn dechrau gyda galwad a gair o’r Ysgrythur gan Gaplan Anrhydeddus Cyngor Caerdydd, y Parchedig Ganon Stewart Lisk. 










© 2022 Cyngor Caerdydd