Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Pa gymorth sydd ar gael i mi?


Amddiffyn a’r lluoedd arfog: Ewch i Gov.uk​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd i gael gwybodaeth am wasanaethau cymorth i bersonél milwrol ac amddiffyn a’u teuluoedd. 


Mae elusennau’r lluoedd arfog yn cynnig ystod o wasanaethau cymorth. I gael trosolwg o’r sefydliadau a allai’ch helpu ewch i Cael cymorth - Elusennau'r Lluoedd Arfog​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd


Wrth gofrestru â’r Cyfamod, bydd Cyngor Dinas Caerdydd yn gweithio i sicrhau nad yw Milwyr, cyn-Filwyr a’u teuluoedd dan anfantais yn sgîl gwasanaethu. 



Gallwch fanteisio ar ystod eang o wasanaethau’r cyngor yn eich Hyb Cymunedol lleol gan gynnwys cyngor arbenigol i gyn-filwyr/Lluoedd Arfog ac eu teuluoedd


  • Cyflogaeth 
  • Budd – Daliadau 
  • Dyled 
  • Tai, a 
  • llawer mwy.

    Cysylltwch a’r arbenigwr cyn-filwyr am fwy o wybodaeth ar 029 2087 1071 neu 07980 953539 neu danfonwch ebost i veteransadvice@cardiff.gov.uk​





    Os oes angen help arnoch i ddychwelyd gwaith ar ôl gwasanaethu yn y lluoedd arfog, mae ystod o ddarparwyr gwasanaeth a all gynnig y cymorth cywir i chi wrth ddod o hyd i waith neu’ch helpu i ennill y sgiliau a’r hyfforddiant cywir. 


    Y Lleng Brydeinig Frenhinol​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd – Cymorth rhagorol i bobl ddychwelyd i fod yn sifiliaid, ailhyfforddi, a sicrhau galwedigaeth newydd a mwy. 


    Gyrfa Cymru​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd - Os hoffech fynd yn ôl i weithio, hyfforddi neu gael addysg, dyma’r lle cyntaf i fynd ato. Gall eich helpu â chyngor ar yrfaoedd, llwybrau i alwedigaeth benodol a mwy. 


    Y Tîm I Mewn I Waith - Mae’r Gwasanaeth i Mewn i Waith yn cynnig sesiynau anffurfiol mewn lleoliadau ledled Caerdydd ar gyfer dinasyddion sy’n chwilio am waith neu am gyfle i wella eu sgiliau. Gall help gyda llunio CV, hyfforddiant sgiliau gwaith, ffurflenni ceisiadau swydd, technegau cyfweliad a llythyrau cwmpasu, chwilio am swydd, sefydlu cyfrif paru swyddi a chyfleusterau cyfrifiadurol. 


    Dysgu Oedolion - Mae’r Gwasanaeth Dysgu Oedolion Cymunedol yn cynnig ystod o gyfleoedd dysgu hyblyg sydd am helpu unigolion i ddychwelyd i ddysgu a’u cynorthwyo i symud at ddysgu neu hyfforddiant pellach neu gael swydd. 


    Y Ganolfan Byd Gwaith​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd - Bydd eich canolfan waith leol yn gallu’ch cyfeirio at hyfforddiant a chyngor fel y gallwch ennill cymwysterau a chamu at eich galwedigaeth newydd. 


    Isod mae rhestr o asiantaethau cyflogaeth arbenigol i gyn-bersonél y lluoedd arfog ac asiantaethau lleol yng Nghaerdydd.



    Pan fydd milwyr yn gadael y lluoedd arfog, y GIG sy’n gyfrifol am eu gofal iechyd.

    Mae gan bob cyn-filwr hawl i flaenoriaeth gyda gofal ysbyty’r GIG os yw’r cyflwr yn ymwneud â bod yn filwr, waeth p’un ai a yw’n cael pensiwn rhyfel ai peidio. Eglurir y broses yn y Canllaw atgyfeirio Cyn-filwyr.​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd


    Rhoddir crynodeb i bawb sy’n gadael y lluoedd arfog o’u cofnodion meddygol, a dylent ei roi i’w meddyg teulu newydd wrth gofrestru. 


    Os nad oes gennych gopi o’r crynodeb o’ch cofnod iechyd mwyach gallwch wneud cais i’w gael drwy dudalen Ceisiadau am ddata personol a chofnodion gwasanaeth​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd ar GOV.UK.

    Anogir cyn-filwyr i roi gwybod i’w meddyg eu bod yn gyn-filwyr er mwyn cael blaenoriaeth â thriniaethau.  


    Os ydych yn symud i leoliad newydd yng Nghymru neu’n dychwelyd o dramor rhaid i chi gofrestru â meddyg teulu. 


    Gweler fanylion am feddygfeydd a gwasanaethau iechyd eraill​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd yn eich ardal.

    Ni ddylech fod dan anfantais wrth fanteisio ar wasanaethau iechyd priodol felly mae’n bwysig rhoi gwybod i’ch meddyg eich bod yn symud yn enwedig os ydych ar restr aros ar gyfer triniaeth feddygol, fel bod modd trosglwyddo’r wybodaeth hon. Mae hefyd yn bwysig rhoi gwybod i’ch meddyg teulu newydd am y sefyllfa. 


    Mae cyfleusterau Canolfan Maen​dy​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd yn gweithredu Cynllun Nofio am Ddim y Lluoedd Arfog sy’n rhoi mynediad yn unol ag amserlen i’r holl ‘oedolion sy’n nofio’n hamddenol’ ym Mhwll Maendy yn unig


    • Mae’r Cynllun yn berthnasol i: Gyn-filwyr a phersonél ar Absenoldeb ac sy’n byw yng Nghymru
    • NID YW’R CYNLLUN yn berthnasol i gymar/partner, aelodau’r teulu na ffrindiau
    • Bydd cyn-filwyr dros 60 oed yn gymwys yn awtomatig ar gyfer y cynllun nofio am ddim 60+
    • RHAID bod gan Gyn-filwyr a Phersonél y Lluoedd Arfog Gerdyn Braint y Weinyddiaeth Amddiffyn​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd’.
    • Caiff ‘Cerdyn Cwrs Caerdydd Actif’ ei gyflwyno i chi os cyflwynwch eich ‘Cerdyn Braint y Weinyddiaeth Amddiffyn’ ac ar ôl cwblhau ffurflen gais y cynllun nofio.
    • Dylid anfon pob ffurflen gais i’r Swyddfa Actif ei phrosesu
    • Dim ond Cardiau Cwrs Caerdydd Actif y gellir eu defnyddio yng Nghaerdydd. Ni dderbynnir ceisiadau nac aelodaeth o Awdurdod arall yng Nghymru. Bydd angen llenwi ffurflen gais arall.
    • Codir £3.00 i gael cerdyn cwrs newydd.

    Efallai eich bod yn ymwybodol am y cyhoeddiad gan y Weinyddiaeth Amddiffyn fod y Lleng Brydeinig Frenhinol, gyda chymorth gan elusennau eraill fel SSAFA a Combat Stress, wedi cael cyllid Cyfamod i sefydlu gwasanaeth un-stop i gefnogi cymuned Cyn-filwyr Lluoedd Arfog y DU yn well. Bydd y rhaglen Porth Cyn-filwyr werth £2m yn helpu Cyn-filwyr ddod o hyd i gyngor a chymorth ar ystod eang o faterion fel gofal iechyd a thai.

    Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan y Weinyddiaeth Amddiffyn​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd.

    Lansiodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant AC Llwybr Tai Cenedlaethol Llywodraeth Cymru yn Nhy Dewr, Wrecsam, Mae'r Llwybr yn ceisio helpu personél gwasanaethau a'u teuluoedd wneud dewis gwybodus am eu dewisiadau llety ar ôl dychwelyd i fywyd sifil.

    Ewch i wefan Llywodraeth Cymru​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd i gael mynediad i'r Llwybr.

    Lansiodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant AC cynllun Cadw'n Ddiogel Cymru ar gyfer Cyn-filwyr. Datblygwyd mewn cydweithrediad rhwng Heddlu De Cymru a 160 Brigâd a Pencadlys yng Nghymru mae’r cynllun yn helpu'r rheiny a all fod angen cymorth ychwanegol gan y Gwasanaethau Brys ar adegau o argyfwng. Byddai'r Cyn-filwr yn gofrestru eu manylion gyda'r heddlu a petai'r angen yn codi y byddent yn newid eu hymateb yn briodol.


    Llwybr tai cenedlaethol ar gyfer Lluoedd arfog a chyn-filwyr​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd​​

    Os hoffech gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Heddlu De Cymru​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd.

    Mae'r prosiect Cynorthwyo Plant Milwyr mewn Addysg Cymru yn parhau i fynd o nerth i nerth. Ar ôl sicrhau y drydedd flwyddyn o gyllid gan Cronfa Cefnogi Addysg MoD mae straeon digidol a ffilmiau wedi cael eu datblygu i ddarparu hyfforddiant ychwanegol a chodi ymwybyddiaeth o'r heriau a wynebir gan blant milwyr. Wedi eu creu gan blant milwyr drwy gyfres o weithdai a chyfweliadau mae’r straeon digidol yn rhoi safbwynt unigryw i fywyd plant Lluoedd Arfog sy'n byw yng Nghymru.

    Ceir rhagor o wybodaeth am waith y prosiect Cymru​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd.

    Mae'r Gwasanaeth Cefnogi Colled Cyn-filwyr​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd yn gweithio gyda Cyn-filwyr a'u teuluoedd ar draws y DU i ddarparu ystod eang o wasanaethau cymorth colled. Gan weithio'n agos gyda Chynghorau lleol maent yn awyddus i hyrwyddo eu gwasanaethau ac yng nghanol y broses o gael cynrychiolydd penodedig ym mhob sir i sicrhau bod eu gwasanaethau yn fwy hygyrch. Efallai y byddwch am godi ymwybyddiaeth ymysg eich rhwydweithiau.

    Caiff plant personél lluoedd y DU (Lluoedd Arfog y DU) neu Weision eraill y Goron eu trin fel petaent yn byw yn lle byddant yn byw yn y dyfodol os cyflwynant eu cais ynghyd â llythyr gan swyddog y Weinidogaeth Amddiffyn neu’r Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad yn datgan dyddiad meddiannu’r cyfeiriad pendant a chadarnhad o’r cartref newydd neu gyfeiriad post yr uned.


    Caiff ceisiadau ar gyfer plant personél gwasanaeth blaenorol neu Weision eraill y Goron blaenorol eu trin fel pob cais arall. Pan fo ceisiadau y tu allan i’r arferol ar gyfer plant personél gwasanaeth y DU neu Weision eraill y Goron yn  aflwyddiannus, caiff rhieni apelio yn erbyn y penderfyniad hwn a gwrandewid ar unrhyw apêl yn ôl tref apêl rhagfarn arferol.​


    Gwneud cais am le mewn ysgol

    Mae’r gwefannau canlynol yn cynnig gwybodaeth a chyngor a allai fod o fudd i chi. 


    ABF Elusen y Milwyr​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newyddMae’r elusen hon yn cynnig cymorth ariannol amserol ac ymarferol i bedair cenhedlaeth o deuluoedd y Fyddin, pobl anabl, pobl â salwch meddwl, pobl ddigartref, pobl ddi-waith a phobl hŷn. 


    Y Lleng Brydeinig​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newyddGofalu ac ymgyrchu dros gyn-Filwyr. Benthyciadau busnes bach, grantiau hyfforddiant a chyngor. 


    Cymdeithas Pensiynau’r Lluoedd Arfog​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newyddCorff gwarchod annibynnol o ran pensiynau’r Lluoedd Arfog. Mae’n cysylltu â phersonél y Lluoedd – yn filwyr ac yn gyn-filwyr – a’u perthnasau a’u dibynyddion a hefyd yn cynnig gwasanaethau gweinyddol fel yswiriant meddygol preifat, trawsgludo, profiant a llunio ewyllysiau, gan ymgyrch dros hawliau pensiwn. Mae hefyd yn cefnogi ac yn cynghori aelodau yn y frwydr dros y pensiynau y dylent fod yn eu hawlio. 


    Cymdeithas y Swyddogion​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newyddElusen i gynorthwyo swyddogion sydd wedi ymddeol neu sydd ar fin ymddeol o’r lluoedd arfog. 


    Cymdeithas yr RAF​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newyddCyfeillgarwch, lles a gofal i aelodau a chyn-aelodau’r RAF. 


    RFEA​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newyddCymdeithas Cyflogaeth y Lluoedd Arferol – rhan o’r CTP ac ynghyd â Chymdeithas y Swyddogion, mae’n rhoi cymorth i’r rhai sy’n gadael y lluoedd sydd wedi’u cofrestru â’r CTP wrth geisio gwaith. Yn ogystal â hyn, mae RFEA yn elusen hir-sefydledig sy’n rhoi cymorth hyd oes i gyn-filwyr wrth ddod o hyd i swydd. 


    Cronfa Lesiannol y Llu Awyr Brenhinol​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newyddYn cynorthwyo teulu estynedig y Llu Awyr Brenhinol sydd angen cymorth o ganlyniad i dlodi, salwch, anabledd, damwain, breguster neu rwystr arall. 


    SSAFA​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newyddSefydliad cenedlaethol sy’n cynorthwyo milwyr a’u teuluoedd pan fo angen, gan gynnig gwasanaethau lles a chymdeithasol, gofal iechyd, tai. 


    Veterans UK​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newyddGwybodaeth a chanllawiau ar Bensiynau Rhyfel, Cynllun Iawndal y Lluoedd Arfog, Cofiannau, medalau a materion cyn-filwyr. 


    White Ensign Association​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newyddElusen lyngesol sy’n rhoi arweiniad ar weinyddu a chyllid personol i bersonél a chyn-bersonél y Llynges Frenhinol a’r Morfilwyr Brenhinol, a’r morwyr wrth gefn. 


    Ymddiriedolaeth Lesiannol Gwasanaeth Llynges Frenhinol y Merched​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newyddElusen gofrestredig i helpu’r merched a wasanaethodd yng Ngwasanaeth Llynges Frenhinol y Merched. 


    Prif amcanion yr Ymddiriedolaeth yw rhoi rhyddhad pan fo angen neu helpu â gofid ymhlith ei haelodau a’u dibynyddion. Mewn achosion addas, mae gan yr Ymddiriedolaeth bŵer i ddyrannu grantiau i addysgu a hyfforddi aelodau. 


    Cadetiaid Môr​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newyddelusen forol genedlaethol sy’n helpu pobl ifanc 10-18 oed. Mae’n cynnig amgylchedd lle gall pobl ifanc ennill hyder a chael eu hysbrydoli. Mae uned y Cadetiaid yn elusen annibynnol, gydag aelodau’r UMT yn ymddiriedolwyr. Mae rolau i Ysgrifennydd y Cwmni, y Cadeirydd a’r Trysorydd. Byddwch yn rhan o dîm ymrwymedig o wirfoddolwyr sy’n helpu i godi arian a rheoli’r uned.



    ​​​​​​​​​​​​​
    © 2022 Cyngor Caerdydd