Fel rhan o weledigaeth
Caerdydd Ddwyieithog Cyngor Caerdydd, rydym yn annog ac yn argymell yn gryf bod ymgeiswyr yn defnyddio arwyddion, rhybuddion ac arddangosfeydd Cymraeg a Saesneg lle bynnag y bo’n bosibl. Trwy ein gweledigaeth yw i ddatblygu prifddinas
wirioneddol ddwyieithog.Dolen yn agor mewn ffenestr newydd
Mae achos busnes cryf i gwmnïau ddefnyddio’r iaith ac mae mwy o gefnogaeth nac erioed o’r blaen i helpu busnesau, mawr a bach, i wneud hynny’n rhwydd. Mae gan Lywodraeth Cymru gynllun ‘Byd Busnes’ sy’n cynnig cefnogaeth, adnoddau a chyngor i fusnesau gan gynnwys gwasanaeth cyfieithu am ddim. Am fwy o wybodaeth,
ewch i GOV.UKDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd
Wrth ddylunio ac arddangos gwybodaeth ddwyieithog, sicrhewch nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg, gan ystyried:
- cyflwyniad gweledol deunyddiau (er enghraifft o ran lliw neu ffont unrhyw destun)
- maint y deunydd
- Safle ac amlygrwydd y deunydd mewn unrhyw fan cyhoeddus
- pryd a sut y cyhoeddir, y darperir neu yr arddangosir y deunydd
- fformat cyhoeddi’r deunydd.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â CaerdyddDdwyieithog@caerdydd.gov.uk