Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Trwyddedau Gamblo

​​Mae pedwar math o drwydded gamblo y gall yr awdurdodau trwyddedu eu dyfarnu:


  • trwyddedau peiriannau gamblo didrwydded mewn canolfannau adloniant i’r teulu
  • gemau clwb a thrwyddedau peiriant clwb
  • trwyddedau gemau gwobr
  • trwyddedau peiriant gêm safle â thrwydded i werthu alcohol a  thrwyddedau gemau gwobr


    Hefyd, mae angen i gymdeithasau bach sy’n cynnal loterïau gofrestru â’r awdurdod.



    Sut i wneud cais


    Cyn gwneud cais dylech ddarllen y nodiadau canllaw ar Ddeddf Gamblo 2005 (138kb PDF)​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd

    Cwblhewch y ffurflen gais berthnasol o’r adrannau isod a’i dychwelyd i ni yn y post neu mewn person:


    Trwyddedu,
    Cyngor Caerdydd,
    Neuadd y Sir,
    Glanfa'r Iwerydd,
    Caerdydd,
    CF10 4UW​


    Oriau agor:


    Dydd Llun i dydd Gwener:       10:00am – 3pm


     

    Family entertainment centres (FECs) are able to offer category D machines if they obtain a gaming machine permit. Any number of category D machines can be made available with such a permit (subject to non-gambling considerations, such as fire regulations and health and safety). 


    Ffurflen gais trwyddedau peiriannau gamblo didrwydded mewn canolfannau adloniant teuluol didrwydded (109kb PDF)​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd

    Mae dau fath o drwydded clwb ar gael: trwydded gemau clwb neu drwydded peiriant clwb.


    • Mae trwyddedau gemau clwb yn caniatáu hyd at dri pheiriant gemau. Rhaid i bob un o’r tri pheiriant fod yn rhai categori B3A, B4, C neu D ond dim ond un peiriant B3A y gellir ei gael yno, drwy gytundeb, fel rhan o hyn. Mae trwyddedau gemau clwb hefyd yn caniatáu gemau cyfle cyfartal (e.e. pocer) a gemau cyfle (e.e. pontŵn, chemin-de-fer) dan rai cyfyngiadau.
    • Mae trwyddedau peiriant clwb yn caniatáu i’r deiliad gael hyd at dri pheiriant gêm. Gall clybiau aelodau a sefydliadau lles glowyr gael hyd at dri pheiriant sy’n rhai categori B3A, B4, C neu D ond dim ond un peiriant B3A y gellir ei gael yno, drwy gytundeb, fel rhan o hyn. Gall clybiau masnachol gael hyd at dri pheiriant o gategori B4, C neu D (dim peiriannau B3A). 


      Ffurflen gais gemau clwb a pheiriant clwb (50kb PDF)​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd


      Gemau gwobr yw gemau pan fo natur a maint y wobr heb eu penderfynu gan naill ai:

       

      • nifer y bobl sy’n chwarae
      • y swm a delir, neu a godir, gan gemau.


        Ffurflen gais trwydded gemau gwobr (120kb PDF)​​​​​​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd

        Mae gan dafarndai a safleoedd â thrwydded i werthu alcohol hawl awtomatig i gael dau beiriant gemau categori C neu D ar ôl hysbysu’r awdurdod trwyddedu o’u bwriad i sicrhau bod peiriannau gemau ar gael i’w defnyddio. Gall awdurdodau trwyddedu gyhoeddi trwyddedau peiriannau gemau sy’n caniatáu gosod peiriannau gemau categori C a D ychwanegol.


        Ffurflen gais trwydded peiriant gemau safleoedd trwyddedig (90kb PDF)​​​​​​​​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd

        Mae’r rhain yn loterïau sy’n cael eu hyrwyddo er budd cymdeithas anfasnachol.  Mae cymdeithas yn un anfasnachol os yw wedi’i sefydlu a’i reoli at ddibenion elusennol.


        Mae’n galluogi pobl i gefnogi neu gymryd rhan mewn chwaraeon, athletau a gweithgareddau diwylliannol, ac unrhyw beth anfasnachol arall nad yw’n elwa’r sefydliad.


        Ffurflen gais Cofrestriad loteri cymdeithas fechan (102kb PDF)​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd


        Faint fydd cost y drwydded?


        Ffioedd a chostau trwyddedau gamblo (51kb PDF)​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd


        Gallwch dalu fel a ganlyn:


        • Cerdyn debyd (dros y ffôn yn unig – 029 20871651)
        • Sieciau (yn daladwy i ‘Cyngor Caerdydd’)
        • Gallwch hefyd dalu drwy BACS:
          Cod Didoli 52-21-06 ​
          Rhif y Cyfrif. 20408838
          Cyfeiriad: Natwest, 96 Heol-y-frenhines, Caerdydd, CF10 2GR​​​

          Rhowch wybod i ni am y cyfeirnod a’r dyddiad talu os ydych yn talu drwy BACS fel y gallwn ddod o hyd i’r taliad.


         

        Os hoffech ragor o help neu gyngor cysylltwch â ni


        Cysylltu â ni

                    

        029 2087 1651

        © 2022 Cyngor Caerdydd