Mae gan yr awdurdodau cyfrifol a thrigolion lleol hawl i wneud sylwadau ar gais am drwydded gamblo a chael eu barn wedi’i hystyried gan yr awdurdod trwyddedu, ar yr amod bod y farn honno’n berthnasol i’r amcanion trwyddedu.
Yr amcanion trwyddedu yw:
- atal gamblo rhag achosi trosedd ac anrhefn, bod yn gysylltiedig â throsedd neu anrhefn, neu gael ei ddefnyddio mewn ffordd droseddol
- sicrhau bod gamblo’n cael ei gynnal mewn ffordd deg ac agored
- diogelu plant a phobl fregus eraill rhag cael eu niweidio neu eu hecsploetio gan gamblo
Rhaid gwneud sylwadau ymhen 28 diwrnod o gyflwyno’r cais. Unwaith y daw’r cais i law’r Awdurdod Trwyddedu, bydd yn trefnu i’r cais gael ei ystyried gan Is-bwyllgor Trwyddedu. Caiff hyn ei hysbysu, a chaiff pobl gyfle i wneud sylwadau ar y cais.
Ffurflen cyflwyno sylwadau (65kb PDF)Dolen yn agor mewn ffenestr newydd
Cwblhewch y ffurflen a’i dychwelyd i ni yn y post neu mewn person:
Trwyddedu
Cyngor Caerdydd
Neuadd y Ddinas
Caerdydd
CF10 3ND
Oriau agor
Dydd Llun i dydd Gwener: 10:00am – 3pm
Os hoffech ragor o help neu gyngor cysylltwch â ni
Cysylltu â ni
029 2087 1651