Os ydych am fod yn ddeliwr metel sgrap neu’n weithredwr adfer darnau cerbydau modur rhaid i chi gael trwydded i fasnachu.
Cofiwch, erbyn hyn mae’n drosedd talu am fetel sgrap ag arian parod.
Mae dau fath o drwydded:
Trwydded safle
Mae trwydded safle yn eich galluogi i fasnachu fel deliwr metel sgrap ar unrhyw safle, neu ar amryw safleoedd, yng Nghaerdydd. Os ydych hefyd am fasnachu rhwng safleoedd mewn awdurdod lleol arall bydd angen i chi wneud cais am drwydded gan yr awdurdod hwn hefyd.
Trwydded casglwr
Mae trwydded casglwr yn caniatáu i chi fasnachu fel casglwr symudol a gwerthu neu waredu metel yn ardal Caerdydd. Mae hyn yn cynnwys gwerthu a gwaredu darnau o gerbydau modur y gellir eu hadfer.
Mae angen trwyddedau casglu ar wahân i bob ardal cyngor lle’r ydych yn casglu metel/darnau.
Sut i wneud cais
Cyn gwneud cais dylech ddarllen y
nodiadau canllaw ar fetel sgrap (237kb PDF)Dolen yn agor mewn ffenestr newydd
Gwneud Cais Ar-lein
Gwneud cais drwy’r post
Trwyddedu
Cyngor Caerdydd
Neuadd y Ddinas
Caerdydd
CF10 3ND
Oriau Agor
Dydd Llun - Dydd Iau: 8.30am – 5pm
Dydd Gwener: 8.30am – 4pm
Ynghyd â’r ffurflen gais, bydd angen i chi gynnwys y canlynol:
Faint fydd cost trwydded?
Ffioedd a chostau Trwyddedau Cyffredinol.
Gallwch dalu fel a ganlyn:
- Cerdyn debyd (dros y ffôn yn unig – 029 20871651)
- Sieciau (yn daladwy i ‘Cyngor Caerdydd’)
Gallwch hefyd dalu drwy BACS:
Cod didoli: 52-21-06
Rhif cyfrif: 20408838
Cyfeiriad: Natwest, 96 Heol-y-frenhines, Caerdydd, CF10 2GR
Beth sy'n digwydd nesaf?
Mae pob trwydded deliwr metel sgrap yn destun cyfnod ymgynghori o 28 diwrnod. Byddwn yn ymgynghori â'r heddlu a
Chyfoeth Naturiol CymruDolen yn agor mewn ffenestr newydd
Os na chawn unrhyw sylwadau ac nad oes gennych unrhyw gollfarnau perthnasol, cewch eich trwydded.
Os cawn eich cynghori i wrthod eich cais, byddwn yn cysylltu â chi ac yn cael cyfle i wneud sylwadau ar eich cais. Yna bydd yr aelod perthnasol o’r Cabinet yn penderfynu ar y cais.
Rhaid dangos y drwydded ar y safle, neu ar gerbyd casglwr symudol, lle gall y cyhoedd ei darllen. Rhaid i werthwyr ddangos prawf adnabod perthnasol (prawf adnabod â ffotograff arno) wrth werthu – rhaid i ddeliwr gadw cofnod o hyn.
Rhagor o wybodaeth
Mae trwyddedau’n ddilys am 3 blynedd, ac yna mae’n rhaid eu hadnewyddu.
Er mwyn dal ati i fasnachu gallai fod angen i chi gael trwyddedau amgylcheddol eraill, fel trwydded cludo gwastraff. Ewch i
Cyfoeth Naturiol CymruDolen yn agor mewn ffenestr newydd i gael rhagor o wybodaeth.
Os hoffech ragor o help neu gyngor cysylltwch â ni
Cysylltu â ni
029 2087 1651