Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Trwydded sefydliad rhyw

​​Mae angen trwydded sefydliad rhyw i weithredu siop ryw, sinema ryw neu leoliad adloniant rhywiol.

Ein rôl ni fel awdurdod trwyddedu yw gweinyddu’r gyfundrefn drwyddedu yn unol â’r gyfraith.

Rydym wedi mabwysiadu atodlen 3 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 (fel y’i diwygiwyd gan adran 27 o Ddeddf yr Heddlu a Throseddu 2009). Cyflwynodd Adran 27 Deddf yr Heddlu a Throseddu​​​​​​​​​​​​ gategori newydd o sefydliad rhyw a elwir yn ‘lleoliad adloniant rhywiol’.

Dan y ddeddfwriaeth hon diffinnir safle adloniant rhyw fel “unrhyw safle y darperir ‘adloniant perthnasol’ ynddo gerbron cynulleidfa fyw er budd ariannol y trefnydd neu’r difyrrwr.” Yn gyffredinol, deellir bod ‘Adloniant perthnasol’ yn cynnwys dawnsio glin, dawnsio polyn, dawnsio bwrdd, sioe stripio, sioe sbecian a sioeau rhyw byw.

Nid yw hon yn rhestr gyflawn a gall natur y disgrifiadau yn amrywio. I gael rhagor o wybodaeth, gweler Canllaw y Swyddfa Gartref (165kb PDF) 

Ystyr siop rhyw yw unrhyw safle a ddefnyddir ar gyfer busnes sy’n cynnwys gwerthu, llogi, cyfnewid, benthyca neu arddangos eitemau rhyw neu bethau eraill i’w defnyddio mewn cysylltiad â gweithgarwch rhywiol.

Caiff sinema rhyw ei diffinio fel unrhyw safle a ddefnyddir i arddangos darluniau byw, sy’n ymwneud yn bennaf â phortreadu gweithgaredd rhywiol. 

Sut i wneud cais

Cyn gwneud cais dylech ddarllen ein hamodau sefydliad rhyw a’n polisi trwyddedu sefydliad rhyw (109kb PDF)​​​​​​​​​.

Gwneud Cais Ar-lein

Gwneud cais drwy’r post 

 

Cwblhewch y ffurflen gais a’i dychwelyd i ni yn y post neu mewn person: 

Trwyddedu,
Cyngor Caerdydd,
Neuadd y Sir,
Glanfa'r Iwerydd,
Caerdydd,
CF10 4UW​​


 

Bydd angen i chi hysbysebu eich cais ar y safle a ger y safle ac mewn papur newydd sy’n cael ei ddosbarthu yn ardal y safle.

Rhaid dangos yr hysbysiad ar y safle am 21 diwrnod o ddyddiad cyflwyno’r cais. Rhaid cyhoeddi hysbysiad yn y papur newydd cyn pen 7 diwrnod ar ôl cyflwyno’r cais.

 

Ffioedd a chostau Trwyddedau Cyffredinol.​


Gallwch dalu fel a ganlyn:

  • Cerdyn Debyd (dros y ffôn - 0300 123 6696)
  • Sieciau (yn daladwy i ‘Cyngor Caerdydd’)
 
Gallwch hefyd dalu drwy BACS:

Cod didoli: 52-21-06
Rhif cyfrif: 20408838​
Cyfeiriad: Natwest, 96 Heol-y-frenhines, Caerdydd, CF10 2GR​​


Bydd yr Adran Drwyddedu’n ymgynghori â’r Heddlu, y Gwasanaeth Tân, yr awdurdod cynllunio, gwasanaethau plant, cynrychiolwyr busnes lleol a chynghorwyr y ward leol. Cynhelir cyfnod ymgynghori am 28 diwrnod o’r dyddiad y daw’r cais i law.
 
Y Pwyllgor Diogelu'r Cyhoedd fydd yn penderfynu ar geisiadau i ddyfarnu, adnewyddu neu drosglwyddo ceisiadau sefydliad rhyw.  Caiff y gwaith o benderfynu ar geisiadau i adnewyddu trwydded ei ddirprwyo i swyddogion, onid ydym yn cael sylwadau perthnasol - os felly, caiff y mater ei gyfeirio at y Pwyllgor Diogelu'r Cyhoedd.
 
Yn gyffredinol caiff cais am drwydded ei wrthod ar y sail a nodir yn Neddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1975​​​​​​​​​​​​​​​​​
 
Gall trwydded hefyd gael ei gwrthod os yw’r Cyngor o’r farn bod:

  • yr ymgeisydd o dan 18 oed
  • mae trwydded yr ymgeisydd wedi cael ei diddymu ystod y flwyddyn ddiwethaf
  • nid yw’r ymgeisydd wedi bod yn byw yn y DU yn ystod y chwe mis olaf
  • mae’r ymgeisydd yn gwmni, nad yw’n gwmni yn y DU
  • mae cais yr ymgeisydd ar gyfer y safle wedi cael ei wrthod yn ystod y deuddeg mis olaf.

 

Gall trwydded hefyd gael ei wrthod os yw’r Cyngor o’r farn bod:

  • Yr ymgeisydd yn anaddas i gael trwydded am ei fod wedi cyflawni trosedd, neu am unrhyw reswm arall
  • y câi’r busnes ei reoli neu ei weithredu er budd person, heblaw am yr ymgeisydd, a gâi wrthod trwydded pe byddai wedi cyflwyno’r cais ei hun.
  • nifer y sefydliadau rhyw yn yr ardal leol yn fwy nag sy’n briodol i’r ardal ym marn y Pwyllgor.
  • byddai dyfarnu’r drwydded yn amhriodol o ystyried: - (i) cymeriad yr ardal dan sylw; neu (ii) y defnydd a wneir o unrhyw safleoedd eraill yn yr ardal gyfagos; neu (iii) gynllun, cymeriad, neu gyflwr y safle.
  • byddai dyfarnu’r drwydded yn amhriodol o ystyried: - (i) cymeriad yr ardal dan sylw; neu (ii) y defnydd a wneir o unrhyw safleoedd eraill yn yr ardal gyfagos; neu (iii) gynllun, cymeriad, neu gyflwr y safle.

Caiff trwyddedau sefydliad rhyw eu dyfarnu am flwyddyn a chânt eu hadolygu bob blwyddyn.




Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni.

Cysylltu â ni​​

Ffôn Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir: 0300 123 6696 (dilynwch yr opsiynau ar gyfer Trwyddedu Caerdydd).


Mae llinellau ffôn ar agor rhwng 10am a 3pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

© 2022 Cyngor Caerdydd