Fel yr Awdurdod Priffyrdd mae dyletswydd ar y Cyngor Sir o dan Ddeddf Priffyrdd 1980 Is-adran 169 i reoli sgaffaldau gaiff eu codi ar briffordd fabwysiedig.
I reoli nifer a lleoliad y sgaffaldau ar y priffyrdd mae Cyngor Caerdydd wedi cyflwyno cofrestru ar gyfer cwmnïau sgaffaldau sy’n gweithredu yng Nghaerdydd. Cyn bod unrhyw gwmni yn gwneud cais am drwydded sgaffaldau rhaid i’r cwmni gofrestru gyda Chyngor Caerdydd.
Er mwyn cael eu hystyried i gael eu cofrestru gyda’r Cyngor Sir er mwyn cael caniatâd i osod Sgaffaldau ar briffordd fabwysiedig, mae’n rhaid i fasnachwyr gwblhau’r ffurflen gofrestru sydd wedi ei atodi a darparu:
- copi o’ch Tystysgrif Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus
- Prawf o’ch cymhwysedd y gellir ei arddangos drwy ddarparu eich manylion aelodaeth NASC neu fel arall gopïau o gardiau CISRS Sgaffaldwyr
Mae Hysbysiadau Cosb Benodedig o hyd at £100 gaiff eu gorfodi ynghyd â’r ffi drwydded os caiff sgaffaldau eu codi ar briffordd gyhoeddus heb drwydded ddilys. Bydd yr Hysbysiad Cosb Benodedig hefyd yn weithredol os na lynir wrth y Telerau a’r Amodau . Mae manylion ynghylch yr hysbysiadau cosb benodedig hyn a’r ddeddfwriaeth sy’n eu rheoli i’w canfod yn y dolenni isod.
Sut i wneud Cais
Cyn gwneud cais awgrymwn eich bod yn darllen y Telerau ac Amodau a geir yn y ddolen isod.
Gallwch chi wneud cais am drwydded scaffaldiau ar-lein Dolen allanol yn agor mewn ffenest newydd Efallai y bydd angen i chi greu cyfrif yn gyntaf.
Faint fydd cost Trwydded Sgaffaldau Unigol?
- Annedd Preswyl Sengl - £110.30 – 28 diwrnod (Rhaid gwneud cais am adnewyddu £110.30 am 28 diwrnod pellach 7 diwrnod cyn dyddiad terfyn y drwydded)
- Masnachol (Bychan) hyd at 12 metr sgwâr a 2 lawr - £158 – 28 diwrnod (Rhaid gwneud cais adnewyddu £105 yr wythnos 7 diwrnod cyn dyddiad terfyn y drwydded).
- Masnachol (Canolig) hyd at 30 metr sgwâr a 5 llawr - £263 – 28 diwrnod (Rhaid gwneud cais adnewyddu £105 yr wythnos 7 diwrnod cyn dyddiad terfyn y drwydded).
- Masnachol (Mawr) dros 30 metr sgwâr a thros 5 llawr - £578 – 28 diwrnod (Rhaid gwneud cais adnewyddu £105 yr wythnos 7 diwrnod cyn dyddiad terfyn y drwydded).
Os bydd lleoliad y sgaffaldau mewn maes parcio talu ac arddangos efallai y bydd taliadau dyddiol eraill yn berthnasol.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Unwaith i’r cais gael ei dderbyn caiff ei brosesu ac fe gysylltir â chi i dderbyn taliad drwy Gerdyn Debyd/Credyd.
Rhaid gwneud taliad yn llawn cyn y gellir cyhoeddi trwydded.
Os nad yw'r cais yn cael ei gymeradwyo, bydd Cyngor Caerdydd yn cysylltu â chi gyda'r rhesymau dros wrthod caniatâd yn yr achos hwn.