Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Gwaith bychan

​​​​Cyn i chi wneud unrhyw waith yn, ar neu uwchlaw’r briffordd gyhoeddus, mae angen i chi gael trwydded gennym.

 
Cyfeirir yn aml at y drwydded hon fel ‘Adran 50’ ac fe’i cyflwynir dan Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991.

 
Mae’r drwydded yn caniatáu gosod offer yn, ar neu uwchlaw’r briffordd ac ni cheir gwneud hynny ond gyda’n caniatâd ni fel yr Awdurdod Priffyrdd.

Sut mae gwneud cais?


 
Gwnewch cais Adran 50 ar-lein​​​​​​. Bydd angen i chi gofrestru’n gyntaf, yna dewis y ddolen ar gyfer “Adran 50”​ o’r gwymplen.

Rhaid i chi sicrhau bod y canlynol gennych a rhaid cyflwyno hyn wrth wneud cais am ganiatâd.

 
  • Tystiolaeth o Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus – Rhaid i hwn yswirio am werth o leiaf £10 miliwn.
  • Tystiolaeth o Achrediad Gwaith Stryd – Copi o ddwy ochr cardiau Cofrestru Cymwysterau Gwaith Stryd Goruchwylydd a Gweithredwyr.

 

Faint fydd y gost?


 
Bydd yn costio £792.50 am bob 100m.​ Rhaid talu â cherdyn Debyd neu Gredyd cyn prosesu’r cais​.

Beth sy’n digwydd nesaf?


 
Byddwn yn asesu eich cais i sicrhau bod yr holl fanylion angenrheidiol yn gyflawn. Wedi cymeradwyo’ch cais a chwblhau proses Adran 50, cewch e-bost yn cadarnhau ac yn cynnwys dogfennau a llythyr cyflwyno. Cewch fewngofrestru i weld statws eich cais Adran 50 ar unrhyw gam.
​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd