Mae’r Cyngor, fel yr Awdurdod Priffyrdd, yn rhoi caniatâd i ddefnyddio’r Briffordd Gyhoeddus ar gyfer Cynhwysyddion, Unedau Llesiant a Thoiledau Symudol drwy roi trwyddedau dan Ddeddf Priffyrdd 1980.
Mae eitemau sy’n cael eu rhoi ar y briffordd heb drwydded ddilys yn rhwystr anghyfreithlon a gall y Cyngor gymryd camau gorfodi mewn achosion o’r fath.
Rhestr wirio ymgeiswyr
Ni fydd y cais hwn yn cael ei dderbyn oni bai bod copi o’r eitemau canlynol yn cael eu hatodi.
- Copi o Dystysgrif Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus eich cwmni (£5,000,000)
- Copi o'ch Datganiad am y Dulliau Codi y Bwriedir
- Cynllun Rheoli Traffig - Rhaid i'r cais hwn gynnwys llun o bob arwydd pethnasol, sy'n cyfarwyddo traffig a cherddwyr yn eglur ac yn ddiogel o amgylch y craen. Rhaid iddo hefyd gynnwys unrhyw lwybr o wyriad os yw'n berthnasol.
- Unrhyw gynlluniau neu ddiagramau perthnasol o'r safle, a llun yn dangos pa mor bell y mae braich y craen yn ymestyn dros y briffordd.
- Cadarnhad o unrhyw Ffyrdd, Mannau Parcio, Arosfannau bws fydd yn cau dros dro (os yn berthnasol).
- Copïau o Dystysgrifau Cyfredol neu Dystysgrifau Gweithredwyr Craen, Rigwyr a gweithwyr eraill sy'n ymwneud â Gweithrediadau Codi.
Noder: Bydd eich cais yn cael ei wrthod os yw'n anghywir neu os oes gwaith papur anghyflawn yn cael ei gyfwyno.
Cosb ar gyfer peidio â chadw at y telerau ac amodau
Bydd camau gorfodi yn arwain at Hysbysiad Cosb Benodedig o £100 a’r ffi drwydded briodol. Pan fo busnesau’n methu â chydymffurfio, efallai byddwn yn tynnu’r Cynhwysyddion, Unedau Llesiant a’r Toiledau Symudol o’r briffordd gyhoeddus.
Bydd yr Hysbysiadau Cosb Benodedig o hyd at £100 yn cael eu gorfodi hefyd os nad yw’r Telerau ac Amodau yn cael eu dilyn.
Mae cyfarwyddwr y cwmni neu’r swyddog awdurdodedig yn gyfrifol am sicrhau y glynir at yr holl Delerau ac Amodau.
Sut i gyflwyno cais
Cyn gwneud cais, rydym yn argymell eich bod yn darllen y Telerau ac Amodau ar y ddolen isod.
Mae trwyddedau a ffioedd ar gyfer pob uned unigol ar y Briffordd, fodd bynnag gellir prosesu nifer lluosog o unedau ar un ffurflen gais.
Oriau agor
Dydd Llun i Dydd Iau: 8:30am i 5pm
Dydd Gwener: 8:30am i 4pm
Beth sy'n Digwydd Nesaf?
Unwaith y caiff cais ei dderbyn, bydd ein Swyddogion Priffyrdd yn ei asesu ac yn trefnu ymweliad safle os oes angen. Yn ystod yr ymweliad safle, gall yr arolygydd priffyrdd gytuno ar amodau ychwanegol neu diwygiedig, caiff y rhain eu cadarnhau yn ysgrifenedig cyn cymeradwyo.
Unwaith i'r cais gael ei dderbyn caiff ei brosesu ac fe gysylltir â chi i dderbyn taliad drwy gerdyn debyd neu credyd.
Rhaid gwneud taliad yn llawn cyn y gellir cyhoeddi trwydded.
Os nad yw’r cais yn cael ei gymeradwyo, bydd Cyngor Caerdydd yn cysylltu â chi gyda’r rhesymau dros wrthod caniatâd yn yr achos hwn.