Dan Ddeddf Priffyrdd 1980, mae’n rhaid i unrhyw un sydd am yrru ar draws y droedffordd er mwyn parcio ei gerbyd ar ei eiddo fod wedi adeiladu croesfan gerbydau awdurdodedig.
Beth yw man croesi i gerbydau?
Mannau croesi yw lleoedd lle mae’r cwrbyn wedi’i ostwng o’i uchder arferol, ac mae’r palmant neu’r llain wedi’i gryfhau i gymryd pwysau’r cerbyd sy’n ei groesi. Mae hyn er mwyn osgoi niwed i’r palmant, y pibelli neu’r ceblau oddi tano.
Er mwyn adeiladu man croesi i gerbydau, mae’n rhaid i chi wneud cais i’r Cyngor am ganiatâd.
Os oes gennych eisoes fan croesi i gerbydau ar eich eiddo, ond mae angen ei ehangu, bydd rhaid i chi wneud cais am ganiatâd yn yr un modd.
Rhaid i chi hefyd sicrhau bod gan eich contractwr o ddewis y canlynol mewn lle a rhaid eu cyflwyno wrth ymgeisio am gymeradwyaeth:
-
Prawf o Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus: O leiaf £10m
-
Prawf o Achrediad Gwaith Stryd: (Copi o'r ddwy ochr o'r Cardiau Cofrestr Cymwysterau Gwaith Stryd Goruchwylydd a Gweithredwr).
Sut mae gwneud cais
Gwnewch cais am Fannau Croesi i gerbydau ar-lein. Bydd angen i chi gofrestru yn gyntaf, ac yna dewis y ddolen ‘Croesfannau’ o’r gwymplen.
Amodau a Thelerau (102kb PDF)
Gallwch weld y Ffyrdd Dosbarthiadol yng Nghaerdydd ar y map isod.
176637.5:318024.6875|classroadnetwork|18000
Traffordd
Cefnffordd
Ffordd A
Ffordd B
Ffordd Ddosbarthiadol heb rif
Chwiliwch am eich cyfeiriad ar
My MapsDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd o weld p’un a yw eich ffordd yn llwybr ddosbarthiadol.
Faint fydd hyn yn costio?
Ffi o £208 fesul Man Croesi i Gerbydau. Does dim modd ad-dalu’r ffi. Mae’n rhaid talu â cherdyn Debyd neu Gredyd cyn bod modd prosesu’r cais.
Ar ôl i’ch cais Cerbyd yn Croesi gael ei gymeradwyo bydd rhaid i chi hefyd dalu ffi o £144.40 am Adran 50 – agor ffordd.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Pan fyddwch yn cyflwyno’ch cais, bydd angen ei asesu i sicrhau bod yr holl fanylion angenrheidiol wedi’u nodi.
Pan fydd eich cais yn cael ei gymeradwyo ac mae’r broses Man Croesi i Gerbydau’n gyflawn, byddwch yn derbyn cadarnhad dros e-bost gyda’r dogfennau a’r llythyr cyflwyno. Gallwch fewngofnodi yn ystod unrhyw gam i
weld statws eich cais am groesfan i gerbydau.