Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Byrddau Hysbysebu Cludadwy – Telerau ac Amodau

​​​

DIFFINIADAU​

Dylid ystyried bod unrhyw gyfeiriad yn y ddogfen hon at “y Cyngor” neu “Gyngor” yn golygu Cyngor Caerdydd/Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd, ei ragflaenwyr, ei olynwyr neu asiantau wedi’u hawdurdodi’n briodol.

Cymerir bod unrhyw gyfeiriad at "Fwrdd H" neu "Fwrdd hysbysebu" yn golygu bwrdd hysbysebu cludadwy

Cymerir bod unrhyw gyfeiriad at "drwydded" yn golygu trwydded a gyhoeddir gan y Cyngor drwy unrhyw ddull awdurdodedig yn unol ag adran 115E o Ddeddf Priffyrdd 1980 i osod bwrdd hysbysebu ar y briffordd.

Mae unrhyw gyfeiriad yn y ddogfen hon at ddeddf Seneddol, darpariaeth statudol, rheoliad neu offeryn statudol yn cynnwys cyfeiriad at y ddeddf Seneddol honno, y ddarpariaeth statudol honno, y rheoliad hwnnw neu’r offeryn statudol hwnnw fel y’i diwygiwyd, ehangwyd neu ail-weithredwyd

Mae i unrhyw gyfeiriad at y "briffordd" yr un disgrifiad ag yn adran 328 o Ddeddf Priffyrdd 1980


GWRTHDARO​

Mae'r telerau a'r amodau hyn yn ategu unrhyw weithred, rheoliad, offeryn, is-ddeddf neu orchymyn a wnaed. Os oes unrhyw wrthdaro rhwng y telerau a'r amodau hyn ac unrhyw weithred, rheoliad, offeryn, is-ddeddf neu orchymyn, yna’r ddeddf, y rheoliad, yr offeryn, yr is-ddeddf neu'r gorchymyn perthnasol sydd yn drech.


CYFFREDINOL​​

a. Bydd y telerau ac amodau hyn yn dod i rym o 01/05/2019

b. Mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i addasu’r Telerau ac Amodau hyn ar unrhyw adeg os oes rhaid gwneud hynny.

c. Bydd angen trwydded ar unrhyw un sy'n bwriadu lleoli Bwrdd H ar y briffordd

d. Cyn cytuno i drwyddedu Bwrdd H, bydd y Cyngor yn edrych i weld a yw'n debygol o gael effaith niweidiol ar hawl y cyhoedd i ddefnyddio'r briffordd. Os nad yw'n fodlon bod digon o wybodaeth wedi'i rhoi am hyn i'w wirio, yna mae'n bosibl y gwrthodir y cais

e. Rhaid cydymffurfio ag is-ddeddfau, polisïau a safonau’r Cyngor am resymau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol.

f. Dim ond i Fyrddau H ar briffyrdd y mae’r telerau ac amodau hyn yn berthnasol. Nid yw’r telerau ac amodau hyn yn ymdrin â Byrddau H ar gyrtiau blaen preifat lle y cyfyngir mynediad i'r cyhoedd.
 
Nid oes angen trwydded arnynt gan y Cyngor. Dylech holi’r Cyngor ynghylch statws y tir dan sylw. Gall tir a ystyrir yn breifat gennych chi gael ei ystyried yn briffordd, hyd yn oed os nad yw wedi cael ei fabwysiadu gan y Cyngor. Dylech holi'r Cyngor bob amser os ydych yn ansicr ynghylch statws y tir

g. Ceidw’r Cyngor yr hawl i atal neu ganslo trwydded os, am unrhyw reswm, daw hynny’n angenrheidiol.


CEISIADAU​​

a. Rhaid cyflwyno cais drwy ddilyn y dull a bennir gan y Cyngor. Mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i newid y broses ymgeisio unrhyw bryd pe byddai’r angen yn codi.

b. Ni ellir gwneud cais am drwyddedau yn bersonol

c. Caniateir uchafswm o un Bwrdd H fesul eiddo.

d. Ni ellir trosglwyddo unrhyw drwydded o gwbl

e. Os yw eich cais yn addas ar gyfer rhoi trwydded, ni fydd eich trwydded yn cael ei chyhoeddi hyd nes y bydd taliad llawn wedi'i dderbyn yn llwyddiannus

f. Mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i wrthod unrhyw gais pan ystyrir nad yw cais wedi bodloni’r amodau sy’n orfodol ar y cais hwnnw.

g. Tra bod eich cais yn cael ei brosesu nid yw hyn yn rhoi'r hawl i chi osod y Bwrdd H ar y briffordd o dan unrhyw amgylchiadau heb gadarnhad ysgrifenedig oddi wrth y Cyngor. Os rhoddir trwydded bydd y dyddiad cychwyn yn cael ei ddarparu i chi. Ni ddylech osod y Bwrdd H ar y briffordd hyd nes y cadarnheir y dyddiad hwn

h. Rhoddir trwyddedau am 12 mis o'r dyddiad a ddangosir ar y drwydded.

i. Caiff trwyddedau eu hadnewyddu dim ond yn ôl disgresiwn y Cyngor. Os ydych am adnewyddu eich trwydded, eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn gwneud hynny cyn y dyddiad y daw'r drwydded yr ydych yn bwriadu ei hadnewyddu i ben

j. Nid yw caniatáu trwydded yn cynnig hawl unigryw i ddefnyddio’r ardal dan sylw. Dylai deiliad y drwydded fod yn ymwybodol bod y Cyngor yn cadw’r hawl i ddefnyddio'r ardal at ddibenion glanhau, atgyweirio a chynnal y briffordd neu gelfi stryd. Gallai fod angen mynediad ar sefydliadau eraill, megis ymgymerwyr statudol, i gynnal a chadw a thrwsio’u hoffer.


k. Os yw’r ymgeisydd yn gwmni cyfyngedig neu’n Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig, a bod y cwmni wedi'i ddiddymu, wedi mynd i ddwylo gweinyddwyr, neu wedi methdalu, bydd y drwydded yn annilys ac ni fydd caniatâd ar gyfer yr ardal sydd wedi'i diffinio. Gan hynny, ni ellir trosglwyddo'r drwydded mewn amgylchiadau o'r fath ac, os yw'n berthnasol, bydd yn rhaid i weithredwr newydd wneud cais am drwydded newydd
 
l. Os yw’r sawl sy’n gwneud cais yn weithredwr unigol neu’n bartneriaeth heb ei hymgorffori, a bod y person neu'r partner hwnnw’n dod yn fethdalwr, bydd y drwydded yn annilys. Gan hynny, ni ellir trosglwyddo'r drwydded mewn amgylchiadau o'r fath ac, os yw'n berthnasol, bydd yn rhaid i weithredwr newydd wneud cais am drwydded newydd

m. Caiff unrhyw wybodaeth a ddarperir gyda'ch cais ei phrosesu yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol ar ddiogelu data er mwyn cyflawni ein tasgau cyfreithiol a rheoleiddiol fel Awdurdod Lleol. Gall unrhyw wybodaeth a ddarperir gennych gael ei defnyddio at ddibenion gorfodi os oes gan y Cyngor sail resymol dros gredu y gallai trosedd fod wedi'i chyflawni neu’n cael ei chyflawni, neu at unrhyw ddiben arall fel y nodir gan y gyfraith

n. Efallai y gofynnir i chi ddarparu gwybodaeth neu ddogfennau ychwanegol neu dystiolaeth ategol sy'n ymwneud â chais neu drwydded ar unrhyw adeg

o. Rhaid gwneud pob cais am drwydded yn onest hyd eithaf eich gwybodaeth. Trwy gael trwydded, byddwch yn tystio’r canlynol:-

i. Mae'r wybodaeth a ddarparwyd gennych yn wir hyd eithaf eich gwybodaeth
ii. Mae’r cais a wnaethoch yn cydymffurfio â'r telerau ac amodau hyn
iii. Bydd y drwydded yn cael ei defnyddio yn unol â'r telerau ac amodau hyn
iv. Bydd y drwydded yn cael ei defnyddio yn unol ag unrhyw rwymedigaethau statudol
v. Rydych yn deall y gellir cymryd camau gorfodi yn eich erbyn os bydd y telerau ac amodau neu'r rhwymedigaethau statudol yn cael eu torri

CYNLLUN​​​

a. O 01/04/2020, dim ond Byrddau H sy'n gorffwys ar un droed sy'n cyffwrdd â'r palmant (neu arwyneb perthnasol arall) fydd yn cael eu caniatáu

b. O 01/04/2020, dim ond Byrddau H sy'n gorffwys ar un droed sy'n cyffwrdd â'r palmant (neu arwyneb perthnasol arall) fydd yn cael eu hystyried ar gyfer trwydded

c. Rhaid peidio â defnyddio goleuadau ar Fyrddau H

d. Ni ellir defnyddio unrhyw osodiadau o unrhyw fath i sicrhau'r Bwrdd H i unrhyw ran o'r briffordd neu'r adeilad neu strwythur parhaol neu led-barhaol neu dros dro arall

e. Ni ellir gwneud cloddio o unrhyw fath i wyneb y briffordd mewn perthynas â Bwrdd H

f. Rhaid i'r dimensiynau ar gyfer Bwrdd H fod rhwng 550mm a 700mm o led ac, o waelod y bwrdd, rhwng 850mm a 1200mm o uchder.


LLEOLI​​

a. Ac eithrio gyda chaniatâd clir y Cyngor, rhaid bod llwybr cerdded dirwystr clir yn cael ei gynnal ar bob adeg ar y briffordd gan o leiaf 1.2 metr o fan pellaf y Bwrdd H i ymyl y briffordd neu unrhyw gelfi stryd sydd yno hefyd
 
b. Dylid ystyried anghenion defnyddwyr eraill y briffordd e.e. cerddwyr, masnachwyr, busnesau cyfagos. Mewn amgylchiadau lle gall cerbydau ddefnyddio'r briffordd, er enghraifft ond heb fod yn gyfyngedig i barthau cerddwyr, rhaid ystyried hyn hefyd

c. Ni ddylai’r Bwrdd H rwystro llwybrau dianc brys o’ch eiddo chi nac eiddo cyfagos, a dylai cerbydau brys allu cyrraedd pob stryd ar bob adeg, gan gynnwys strydoedd i gerddwyr.

d. Ni ddylid gosod y Bwrdd H lle y bydd yn amharu ar olygon gyrwyr neu lle bydd yn cuddio arwyddion ffyrdd.

e. Rhaid gosod y Bwrdd H fel ei fod yn cyffwrdd â llinell adeilad eich safle. Os yw caffi stryd llawn- drwyddedig yn cael ei ddefnyddio yna gellir gosod Bwrdd H yn cyffwrdd â therfynau’r caffi stryd ond dim ond lle mae gwahaniad ffisegol clir rhwng y caffi stryd a'r briffordd

f. Dylai'r Bwrdd H, lle bo'n bosibl, gael ei osod o fewn 1 metr i brif fynedfa'r safle ond nid fel y byddai'n achosi rhwystr i ddefnyddio'r fynedfa honno. Y pellter mwyaf y gellir lleoli Bwrdd H i ffwrdd o brif fynedfa'r safle yw 2 fetr

g. Rhaid peidio â gosod Bwrdd H ar y briffordd pan fo rhybuddion tywydd ambr neu goch ar waith gan y Swyddfa Dywydd

h. Rhaid i Fyrddau H beidio â rhwystro mynediad at unrhyw orchuddion neu gyfarpar gwasanaeth

i. Rhaid peidio â gosod Byrddau H ar balmentydd neu'n agos at balmant botymog neu gyrbau is neu groesfannau i gerddwyr


AMRYWIOL​​

a. Ni chaniateir i unrhyw Fwrdd H gael ei roi ar y briffordd rhwng 10pm a 7am

b. Ni chaniateir i Fwrdd H gael ei osod ar y briffordd y tu allan i oriau busnes y fangre y mae'r drwydded yn ymwneud â hi

c. Dim ond at ddibenion hysbysebu a marchnata cyfreithlon y caniateir defnyddio Byrddau H

d. Rhaid i’r trwyddedai indemnio’r Cyngor yn erbyn pob cam gweithredu, gofyniad, cost, tâl neu draul sy’n deillio o ddefnyddio’r briffordd dan y caniatâd a ddyfarnwyd. Bydd y Cyngor felly’n gofyn i’r trwyddedai gael yswiriant atebolrwydd cyhoeddus gwerth o leiaf £5,000,000. Rhaid amgáu manylion yswiriant atebolrwydd trydydd parti gyda’r cais am drwydded

e. Rhaid i bob Bwrdd H gydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010 a rhaid iddo beidio â hyrwyddo na chynnwys deunydd a allai gael ei ystyried yn wahaniaethol, sy'n peri tramgwydd neu sy’n hybu aflonyddu neu erledigaeth. Rhaid i bob Bwrdd H beidio â gwahaniaethu yn erbyn unrhyw un ar sail oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas neu statws partneriaeth sifil, hil, crefydd neu gredo, rhyw na chyfeiriadedd rhywiol. Nid yw'r rhestr hon yn hollgynhwysol ac mae'r Cyngor yn cadw'r hawl i gymryd camau lle y gellid ystyried bod unrhyw Fwrdd H yn torri Deddf Cydraddoldeb 2010 neu y gellir ystyried ei fod yn amhriodol neu y gallai beri tramgwydd.
 

GORFODI​​

a. Bydd y Cyngor yn cynnal arolygiadau achlysurol i sicrhau y glynir wrth holl delerau ac amodau'r drwydded. Gall y Cyngor atal neu derfynu trwydded os torrir unrhyw un o amodau'r drwydded

b. Os ystyrir bod trosedd wedi'i chyflawni sy'n ymwneud â Bwrdd H gellir cyfeirio'r mater i Lys yr Ynadon ar gyfer erlyn

c. Pan fo swyddog awdurdodedig o'r farn y dylid cymryd Bwrdd H i ffwrdd, caiff gyflwyno hysbysiad i ddeiliad y drwydded neu i'r person y mae'n ymddangos ei fod yn gyfrifol am y Bwrdd H a fydd yn ei gwneud yn ofynnol iddo gael ei symud. Mae'n rhaid cydymffurfio â'r hysbysiad hwn ac, os nad ydyw, gall y Cyngor atafaelu’r Bwrdd H. Gellir codi ffioedd o ganlyniad i hynny.

d. Pan fo swyddog awdurdodedig o'r farn bod yn rhaid i Fwrdd H gael ei gymryd i ffwrdd gan ei fod yn beryglus i'r cyhoedd neu i eiddo, yna caiff y Bwrdd H ei gymryd i ffwrdd heb rybudd. Gellir codi ffioedd o ganlyniad i hynny.

e. Pan fydd Bwrdd H wedi'i gymryd bydd yn cael ei gadw am 14 diwrnod. Bydd ffi o £50 i'r Bwrdd H gael ei ddychwelyd. Bydd gofyn i chi ddarparu prawf o berchenogaeth er mwyn iddo gael ei ddychwelyd

f. Pan na chaiff Bwrdd H sydd wedi’i gymryd ei hawlio o fewn 14 diwrnod bydd yn cael ei ddinistrio

g. Nid yw cyhoeddi trwydded yn eich indemnio rhag cael eich erlyn os na lynir wrth y telerau ac amodau hynny neu unrhyw ofynion statudol


CYSYSYLLTWCH Â NI​​​

Drwy gael trwydded, byddwch yn rhwym wrth y telerau ac amodau hyn. Os nad ydych yn deall unrhyw un o'r telerau ac amodau hyn yn llawn yna dylech gysylltu â'r Cyngor i gael eglurhad cyn i chi gael eich trwydded.


Mae mwy o wybodaeth hefyd ar gael drwy ymweld â wefan cynghor Caerdydd​.




© 2022 Cyngor Caerdydd