Yn gyffredinol adnabyddir arwyddion hysbysebu a osodir ar y briffordd fel Byrddau A. Os yw’r ardal lle y caiff bwrdd H ei osod yn rhan o’r briffordd, yna’n unol â Deddf Priffyrdd 1980 mae angen i chi wneud cais i’r Cyngor am drwydded.
Polisi Byrddau A (1255kb PDF)
Sut mae gwneud cais?
Gallwch wneud
cais ar-lein am drwydded Byrddau A. Gallai fod angen i chi greu cyfrif yn gyntaf.
Cost cais am drwydded newydd yw £219.50. Os ydych yn adnewyddu cais yna £161.80 yw’r gost.
Rhaid i chi ddarllen y
telerau ac amodau cyn gwneud cais.
Beth nesaf?
Pan wneir eich cais, bydd angen i swyddog y Cyngor ei asesu’n gyntaf i sicrhau ei fod yn gymwys. Byddwch yn derbyn cadarnhad drwy e-bost o ran a yw’ch cais wedi bod yn llwyddiannus ar ôl iddo gael ei adolygu.
Ni fyddwch yn gallu gosod eich bwrdd H ar y briffordd nes y byddwch wedi derbyn eich trwydded, hyd yn oed os yw’ch cais yn aros am benderfyniad.
Cosbau
Os nad ydych yn glynu at y telerau ac amodau gallech gael eich erlyn.
Mewn rhai amgylchiadau pan fo busnesau’n methu â chydymffurfio â’r telerau ac amodau, neu pan fo’r Byrddau H yn peryglu’r cyhoedd, gall swyddog y Cyngor eu symud o’r briffordd. Bydd wedyn yn cael ei storio am 14 diwrnod ar gost y perchennog, neu caiff ei ddinistrio.
Cysylltu â ni