Fel yr Awdurdod Priffyrdd mae dyletswydd ar Gyngor Dinas Caerdydd dan Adran 139 Deddf Priffyrdd 1980 i reoli sgipiau a roddir ar y briffordd.
Cofrestru
Er mwyn rheoli nifer y sgipiau ar briffyrdd mae Cyngor Caerdydd wedi cyflwyno cofrestr o gwmnïau sgip sy’n gweithredu yng Nghaerdydd. Cyn i unrhyw gwmni wneud cais am drwydded sgip mae’n rhaid eu bod wedi eu cofrestru gyda Chyngor Caerdydd.
I gael eu hystyried ar gyfer cofrestru a chael caniatâd i roi sgip ar y briffordd fabwysiedig, mae’n rhaid i
Dolen allanol yn agor mewn ffenest newydd cyn y gallant wneud cais am Drwydded Sgip.
- copi o’ch Tystysgrif Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus
- copi o’ch Tystysgrif Trwydded Cludwr Sbwriel
- copi o’ch Trwydded Gyrrwr Cerbyd Nwyddau – Ffurflen OL1
Sut y mae gwneud cais am drwydded sgip?
Dylai pob cais gael ei wneud o leiaf un diwrnod gwaith ymlaen llaw.
Beth yw pris Trwydded Sgip Unigol?
£38.87 – fesul sgip ar gyfer trwydded 7 diwrnod
£77.74 – fesul sgip ar gyfer trwydded 28 diwrnod
Ni chaiff unrhyw ad-daliadau eu rhoi ar ôl dyddiad dechrau’r drwydded.
Os caiff y Sgip ei leoli mewn maes parcio talu ac arddangos mae'n bosibl y codir taliadau dyddiol ychwanegol.
Beth sy'n Digwydd Nesaf?
Pan fyddwch yn gwneud eich cais, bydd angen ei asesu i ddechrau i sicrhau ei fod yn gymwys. Os cymeradwyir y cais byddwch yn derbyn cadarnhad ar e-bost a chodir y tâl ar eich cyfrif yn awtomatig. Yna byddwch yn gallu defnyddio eich sgip yn unol â’r telerau ac amodau.
Cosb ar gyfer peidio â glynu at y telerau ac amodau
Bydd Hysbysiadau Cosb Benodedig o hyd at £300 yn cael eu gorfodi os nad yw'r Telerau ac Amodau yn cael eu parchu. Ceir manylion am hysbysiadau cosb benodedig a'r ddeddfwriaeth mewn perthynas â nhw yn y Ffurflen Gais Cyn-cofrestru Cwmni Sgip.