Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cwt Smygu

​​​​​Dan Reoliadau (Mangreoedd etc) Di Fwg 2006 roedd yn rhaid i bob man cyhoeddus a phob gweithle sy'n gaeedig neu'n rhannol gaeedig fod yn ddi-fwg o 2007. Roedd y ddeddfwriaeth hon yn sicrhau bod yn rhaid i’r bobl a oedd am ysmygu sefyll y tu allan i’r safle. Yng Nghaerdydd, arweiniodd hyn at godi nifer sylweddol o ardaloedd ysmygu y tu allan i dafarndai, bars a chlybiau nos. Canlyniad i hyn yw cynnydd mewn bonau sigarét yn cael eu taflu fel ysbwriel a rhwystro  cerddwyr rhag symud yn rhwydd ar hyd y briffordd.

Er bod cael mannau ysmygu penodol yn angenrheidiol er mwyn gwahanu cwsmeriaid oddi wrth gerddwyr yn mynd heibio, mae’n bwysig gweinyddu’r ardaloedd hyn a’u rheoli’n gywir er mwyn sicrhau eu bod bodloni’r safonau uchel sy’n ddisgwyliedig yng Nghaerdydd. Ni ddylent greu rhwystr ar y briffordd, perygl i gerddwyr na phroblem glanhau. 


Cosbau diffyg cydymffurfio

Bydd camau gweithredu yn arwain at Hysbysiad Cosb Benodedig o £100 ynghyd â chost y drwydded. Mewn amgylchiadau pan nad yw busnes yn cydymffurfio, mae’n bosibl y byddwn yn symud yr ardal ysmygu oddi ar y briffordd gyhoeddus.  

Yn ogystal, byddwn yn gorfodi Hysbysiad Cosb Benodedig o hyd at £100 os na chydymffurfir â’r Telerau ac Amodau. 

Cyfarwyddwr y cwmni neu’r swyddog awdurdodedig sy’n gyfrifol am sicrhau y dilynir y Telerau ac Amodau yn llawn. 

Mae’n rhaid rhoi blychau llwch metel (neu ddeunydd arall nad yw tân yn ei ddinistrio) sy'n addas ar gyfer y tu allan ym mhob ardal ysmygu. Dan Adran 87 Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, mae taflu a gadael sbwriel ar y briffordd, yn cynnwys bonau sigarét, yn drosedd. 

​Bydd y drosedd hon dim goddefgarwch hon yn arwain at gyflwyno Hysbysiad Cosb Benodedig o £80 i’r troseddwr. Dylid dangos arwyddion yn datgan hyn ac yn gofyn i bobl ddefnyddio’r biniau sydd ar gael. 


Sut mae gwneud cais

Cyn gwneud cais, argymhellwn eich bod yn darllen y Telerau ac Amodau.
Gallwch ymgeisio am cwt smygu drwy lenwi'r ffurflen gais hon a'i hanfon atom fel a ganlyn:

E-Bost- rheoliasedau@caerydd.gov.uk

​Post: Ystafell 301, Rheoli Asedau, Cyngor Caerdydd, Neuadd Sir, Caerdydd CF10 4UW

​​​​Beth yw pris y Drwydded?

Bydd y drwydded yn costio £40 y metr sgwâr. ​

Beth sy’n digwydd nesaf?

Wedi i ni dderbyn cais, bydd ein Swyddogion Priffyrdd yn ei asesu ac os caiff ei gymeradwyo dan delerau Deddf Priffyrdd 1980, mae’n ddyletswydd ar y Cyngor i hysbysebu ceisiadau am Drwyddedau Ardaloedd Ysmygu am o leiaf 28 diwrnod drwy arddangos hysbysiadau yn agos at yr ardal ysmygu a gynigir. Mae’r hysbysiadau hyn yn cynnwys manylion y cynigion ac yn gwahodd sylwadau gan bobl y gallai'r ardal ysmygu effeithio arnynt. 


Pan ddaw’r cyfnod 28 diwrnod i ben, os nad oes unrhyw wrthwynebiadau bydd swyddog cyllid yn cysylltu â chi ar gyfer taliad cerdyn Debyd/Credyd.  Os yw’r cais yn aflwyddiannus, bydd Cyngor Caerdydd yn cysylltu â chi i egluro’r rhesymau dros wrthod y cais y tro hwn. 




© 2022 Cyngor Caerdydd