Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Trwydded Gwarchodwr

​​​​​Rheoleiddiwyd dan Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933/63 a Rheoliadau Plant (Perfformiadau a Gweithgareddau) (Cymru) 2015.

Mae'n ofynnol yn gyfreithiol bod plant sy'n cymryd rhan mewn perfformiadau cyhoeddus neu chwaraeon, neu’n gweithio ar raglenni teledu,  ffilmiau, neu fel modelau, dan drwydded gan yr awdurdod lleol, yn cael eu goruchwylio gan Warchodwr y mae’r cyngor wedi’i gymeradwyo, oni bai bod rhiant, gofalwr cyfreithiol neu mewn amgylchiadau arbennig, athro, yn gofalu amdanynt.

Prif ddyletswydd y Gwarchodwr yw gofalu am y plentyn yn eu gofal.  Maent yn gyfrifol am warchod, cefnogi a hybu lles y plentyn, ac ni ddylent wneud unrhyw beth allai amharu ar eu dyletswyddau.

Rhaid i warchodwr aros gyda’r plentyn bob amser, a chadw golwg arno pan fydd ar y llwyfan, ar set neu wrthi’n perfformio.  Bydd union ddyletswyddau’r gwarchodwr yn amrywio yn ôl y perfformiad neu weithgaredd y bydd y plentyn â rhan ynddo.  Fodd bynnag, eu prif ddyletswyddau fydd sicrhau bod y plentyn/plant yn cael eu goruchwylio’n iawn pan nad ydyn nhw’n perfformio, a'u bod yn bwyta, yn gorffwys ac yn cael eu difyrru pan fo angen.  Rhaid i’r gwarchodwyr hefyd sicrhau bod cyfleusterau newid addas yn cael eu darparu gan y cwmni neu’r lleoliad, gydag ystafelloedd newid ar wahân i fechgyn a merched dros bum mlwydd oed.

Gall Gwarchodwr oruchwylio hyd at 12 o blant.  Fodd bynnag, yn ddibynnol ar anghenion y perfformiad, neu ar oedran, rhyw neu anghenion arbennig y plant, gallai’r awdurdod lleol benderfynu bod y Gwarchodwr yn gofalu am nifer llai o blant i sicrhau eu bod yn cael eu gwarchod yn briodol. 

Dyma’r broses i gofrestru fel Gwarchodwr yng Nghaerdydd:​​​​

  • Llenwi ffurflen gais
  • Llun pasbort 
  • Cyfweliad
  • Geirda boddhaol gan ddau ganolwr
  • Tystysgrif Fanwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG/Swyddfa Cofnodion Troseddol)
  • Mynychu cwrs Hyfforddi Gwarchodwyr Caerdydd 
  • Talu’r ffioedd perthnasol



Gwnewch gais am drwydded Gwarchodwr

Cwblhewch y tair ffurflen a’u cyflwyno i peca@caerdydd.gov.uk.




Dogfennau Rheoliadau a Chanllawiau




Mae rhagor o wybodaeth ar y wefan hon:


Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Addysg






Ffô​n: 029 2233 0876
© 2022 Cyngor Caerdydd