Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Plant yn cael eu Cyflogi

​​​​Mae rheolau a rheoliadau caeth ynghlwm â chyflogi plant sy’n eu gwarchod rhag niwed neu gamfantais ac sy’n sicrhau nad yw eu hiechyd na’u haddysg yn dioddef.​ 

Yr Awdurdod Lleol yw’r asiantaeth sy’n gyfrifol am oruchwylio’r plant sy’n gweithio’n rhan amser ac am erlyn unrhyw gyflogwr sy’n torri’r gyfraith. Yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol, y Tîm Diogelu ac Adolygu a’r Swyddogion Diogelu Addysg sy’n gyfrifol am wneud hyn yng Nghyngor Caerdydd.

Rhaid i blentyn fod yn 13 oed cyn gallu gwneud cais am drwydded i weithio. 

Mae’r ddeddfwriaeth yn berthnasol i bob plentyn (gan gynnwys plant y cyflogwr) sydd o dan oedran addysg orfodol.   (y dydd Gwener olaf ym Mehefin yn y flwyddyn ysgol pan maen nhw’n cael eu pen-blwydd yn 16).  Dyw’r ffaith bod gan blentyn Rif a Cherdyn Yswiriant Gwladol ddim yn golygu bod plentyn yn gallu cael swydd llawn amser a/neu adael ysgol. 

Cyfrifoldebau’r Cyflogwr


Rhaid i bob plentyn o oedran ysgol sy'n gweithio'n rhan amser i gyflogwr, p'un ai ydyn nhw'n cael eu talu neu'n gweithio'n wirfoddol, fod wedi'i gofrestru â'r Awdurdod Lleol a chael trwydded i weithio. Cyfrifoldeb y cyflogwr yw gwneud cais am drwydded weithio er mwyn gallu cyflogi'r plentyn. 

Os ydych chi, fel cyflogwr am gyflogi plant mae'n rhaid i chi ufuddhau i'r rheolau a'r rheoliadau sy'n rheoli faint o oriau gall y plentyn weithio, pa fath o waith all ef neu hi wneud a pha fath o adeilad gall weithio ynddo.   

Rhaid i’r cyflogwr gynnal Asesiad Risg penodol i Bobl Ifanc o unrhyw beryglon yn ymwneud â chyflogaeth y plentyn, a gadael i’r rhiant/gofalwr wybod beth yw canlyniad yr asesiad.  Rhaid i’r cyflogwr hefyd sicrhau bod gan y plentyn ddillad ac esgidiau addas i'w gwisgo, ei fod yn derbyn hyfforddiant, canllawiau a goruchwyliaeth ddigonol, a bod yswiriant priodol yn ei le. 

O fewn 7 diwrnod i’r plentyn ddechrau gweithio rhaid i’r cyflogwr lenwi ffurflen gais Cyflogi Plentyn a rhaid iddo ef a rhiant/gofalwr y plentyn ei harwyddo.  Ar y ffurflen hon rhoir manylion y plentyn, yr oriau gwaith, y lle gwaith a’r math o waith fydd yn cael ei wneud. 

Does dim byd mewn deddfwriaeth sy’n datgan faint y dylid talu plentyn o oedran ysgol. Y cyflogwr, y rhiant/gofalwr a'r plentyn sy'n cytuno ar hyn, ond os na fydd talu o gwbl neu os fydd y plentyn yn cael ei dalu mewn ffordd arall (e.e. drwy wersi marchogaeth am ddim neu fwyd neu nwyddau am ddim) ystyrir ei fod yn cael ei gyflogi er hynny.   

Os yw cyflogwr yn ystyried cyflogi plentyn ond heb wneud hynny o’r blaen mae’n werth iddo gael cyngor gan y Swyddog Diogelu Plant sy’n rhan o Dîm Diogelu ac Adolygu'r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol.  

Dylai cyflogwyr gadw'r canlynol mewn cof:
  • Mae’n anghyfreithlon i gyflogi plentyn o dan 13 oed
  • Mae'n anghyfreithlon i gyflogi plentyn heb Drwydded Cyflogi Plentyn
  • Dim ond mewn rhai mathau o waith y gellir cyflogi plant (gweler isod)
  • Ni all plentyn weithio rhwng 7pm a 7am (dydd Llun i ddydd Sadwrn)
  • Ni all plentyn weithio mwy na 2 awr ar ddiwrnod ysgol
  • Ni all plentyn weithio am fwy na 2 awr ar ddydd Sul rhwng 7am ac 11am
  • Ni all plentyn weithio mwy na 12 awr yn ystod unrhyw wythnos y mae disgwyl iddyn nhw fynd i'r ysgol
  • Gall plentyn 13 neu 14 oed weithio hyd at 5 awr ar ddydd Sadwrn neu ar ddiwrnod yn ystod gwyliau'r ysgol, a gall weithio hyd at fwyafswm o 25 awr bob wythnos yn ystod y gwyliau hynny
  • Gall plentyn 15 neu 16 oed weithio hyd at 8 awr ar ddydd Sadwrn neu ar ddiwrnod yn ystod gwyliau'r ysgol, a gall weithio hyd at fwyafswm o 35 awr bob wythnos yn ystod y gwyliau hynny
  • Rhaid i blentyn sy’n gweithio am 4 awr gael hoe am o leiaf 1 awr.
  • Mae rhaid i bob plentyn dderbyn o leiaf 2 wythnos o wyliau olynol bob blwyddyn


Dim ond rhai o’r rheolau a rheoliadau yn ymwneud â chyflogi plant sydd uchod. Eich cyfrifoldeb chi fel cyflogwr yw sicrhau eich bod yn ymwybodol o Ddeddfwriaeth Cyflogi Plant a bod unrhyw blentyn yr ydych yn ei gyflogi yn cael ei gyflogi'n gyfreithlon. 

Cyflogaeth i Blant wedi’i Gwahardd


Ni chaniateir cyflogi plentyn o unrhyw oedran:
  • mewn sinema, theatr, disgo, neuadd ddawns neu glwb nos oni bai ei fod mewn cysylltiad â pherfformiad gan blant yn unig.
  • i werthu neu gludo alcohol, oni bai ei fod mewn cynhwysydd wedi’i selio. 
  • i ddanfon llaeth.
  • i ddanfon olew tanwydd.
  • mewn cegin fasnachol.
  • i gasglu neu wahanu ysbwriel
  • i weithio ar uchder o dri metr uwchlaw'r ddaear/llawr. 
  • mewn cyflogaeth sy’n cynnwys gweithio gyda chyfryngau corfforol, biolegol neu gemegol peryglus. 
  • i fynd o ddrws i ddrws yn casglu arian neu wneud dyletswydd arall oni bai bod oedolyn yn goruchwylio. 
  • gweithio gyda deunydd i oedolion neu mewn sefyllfaoedd sy’n anaddas ar gyfer plant oherwydd deunydd i oedolion.
  • gwerthu dros y ffôn.
  • gweithio mewn lladd-dy neu mewn rhan o siop gigydd neu safle tebyg sy’n gysylltiedig â lladd da byw, swydd cigydd neu drin carcas neu gig i'w werthu.
  • fel cynorthwyydd mewn ffair neu arcêd adloniant neu mewn unrhyw safle arall a ddefnyddir er adloniant cyhoeddus trwy gynnig peiriannau awtomatig, gemau mentro neu sgil neu unrhyw ddyfais debyg.
  • i roi gofal personol mewn cartrefi preswyl neu gartrefi gofal. 


Nid yw hyn yn rhwystro plant rhag cymryd rhan mewn perfformiad o dan ddarpariaethau trwydded a ganiateir yn unol â Deddf Plant a Phobl Ifanc 1963 a Rheoliadau Plant (Perfformiadau a Gweithgareddau) (Cymru) 2015. 

Cyflogaeth a ganiateir ar gyfer plant 14 neu hŷn

Ni chaiff plentyn 14 oed neu hŷn ond ei gyflogi i wneud gwaith ysgafn.

Cyflogaeth a ganiateir ar gyfer plant 13 oed

Ni chaiff plentyn 13 oed ei gyflogi ond i wneud gwaith ysgafn yn y categorïau canlynol:
  • gwaith amaethyddol neu arddwriaethol
  • danfon papurau newydd, neu ddeunydd print arall 
  • gwaith siop, yn cynnwys llenwi silffoedd 
  • siopau trin gwallt 
  • gwaith swyddfa 
  • golchi ceir â llaw mewn lle preswyl preifat 
  • mewn caffi neu fwyty 
  • mewn stablau ceffylau 
  • gwaith domestig mewn gwestai ac eiddo arall yn cynnig llety



Os ydych am wneud cais am drwydded i blentyn weithio, lawrlwythwch y ffurflen gais a’i dychwelyd ynghyd â llun pasbort diweddar o’r plentyn. 

Mae angen i chi gynnwys copi o’ch asesiad risg wedi’i gwblhau, sydd wedi’i lofnodi gan y cyflogwr a gan y plentyn . Rhaid i’r asesiad risg amlinellu’n glir ddyletswyddau penodol y plentyn.​​​


Mae rhagor o wybodaeth ar y wefan hon:


Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Addysg:







Ffô​n: 029 2233 0876​
© 2022 Cyngor Caerdydd