Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Plant mewn Adloniant

​​​Rheoleiddiwyd dan Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933/63 a Rheoliadau Plant (Perfformiadau a Gweithgareddau) (Cymru) 2015.  

Mae'n bosib bydd rhaid i blant sy’n cymryd rhan mewn adloniant fel: teledu, ffilm, y theatr, modelu, sioeau dawns, pantomeimiau, dramâu amatur, grwpiau cerdd a chwaraeon cyflogedig (boed yn amatur neu broffesiynol) gael trwydded berfformio a gwarchodwr trwyddedig.  

Pwrpas y gofynion hyn yw sicrhau nad yw’r ‘gwaith’ yn niweidio lles ac addysg y plentyn.   Gellir gwneud cais am y trwyddedau hyn i’r awdurdod lleol lle mae’r plentyn yn byw. 

Mae angen Trwydded Perfformio i Blentyn yn yr achosion canlynol

  • ​I bob plentyn hyd ddiwedd ei addysg orfodol.  Mae hyn gyfystyr â’r dydd Gwener olaf ym mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd y mae’r plentyn yn cael ei ben-blwydd 16 oed ynddo. 

  • Pan fo rhaid talu i weld y perfformiad.  Mae hyn yn wir hyd yn oed os nad yw’r perfformwyr yn cael eu talu. 

  • Pan fo'r perfformiad yn digwydd mewn safle trwyddedig neu glwb wedi’u gofrestru. 

  • Pan fo’r perfformiad yn cael ei recordio i’w ddarlledu neu ei arddangos (e.e. ar deledu, radio, ffilm, Y We ac ati)


A oes eithriadau?

Amlinellir yr eithriadau yn adran 37(3) Deddf 1963, sydd ond yn berthnasol pan nad oes tâl wedi’i wneud yn gysylltiedig â pherfformiad y plentyn, boed i'r plentyn neu berson arall, ar wahân i dreuliau.  Nid yw’r eithriadau yma’n berthnasol i blant sy’n cael eu talu i gymryd rhan mewn chwaraeon neu fodelu.

Y rheol 4 diwrnod

Os nad yw’r plentyn wedi perfformio ar fwy na 3 diwrnod yn ystod y 6 mis diwethaf, ni fydd angen trwydded arno i berfformio ar y pedwerydd diwrnod.  Unwaith mae’r plentyn wedi perfformio am 4 diwrnod mewn cyfnod o 6 mis (mewn unrhyw berfformiad, hyd yn oed os oedd trwydded mewn grym ar un o'r diwrnodau hynny neu fod y plentyn yn cymryd rhan mewn perfformiad a drefnwyd ar gyfer grŵp o blant) yna mae angen trwydded ar gyfer unrhyw berfformiad pellach (oni bai bod un o’r eithriadau y cyfeirir atynt isod yn berthnasol).  

Os bydd rhaid i blentyn fod yn absennol o’r ysgol ni ellir dibynnu ar yr eithriad hwn: mae'n rhaid cael trwydded.  

Caniatâd ar gyfer Grŵp o Blant (CGB) 

Mewn rhai achosion gall unigolyn sy’n trefnu perfformiad yn cynnwys plant wneud cais am CGB.   Mae modd gwneud cais am CGB ar gyfer y plant i gyd, yn hytrach na gwneud cais am drwyddedau unigol i bob plentyn.    Yr awdurdod lleol sy’n penderfynu a fydd yn dewis rhoi caniatâd ar gyfer grŵp o blant ai peidio. 

Gall unrhyw sefydliad wneud cais am CGB, cyhyd a bod yr un o’r plant yn cael eu talu.   Bydd yr awdurdod lleol am gael sicrwydd bod gan y corff bolisïau diogelu plant eglur, cadarn a sefydledig.   Dylid gwneud cais am CGB i’r awdurdod lleol ll mae’r perfformiad yn digwydd. Gall yr awdurdod lleol gymeradwyo cais hyd yn oed os nad yw’r plant sy’n cymryd rhan yn byw o fewn ei ffiniau.    Os yw’n cael ei dderbyn, mae CGB yn golygu nad oes rhaid gwneud cais am drwydded unigol i bob plentyn. Mae'r caniatâd yn cael ei roi i'r corff sy'n gyfrifol am y perfformiad.   Gall yr awdurdod osod amodau i sicrhau lles y plant, a gall dynnu caniatâd yn ôl os nad ydynt yn cael eu bodloni.  

Os bydd plentyn yn absennol o’r ysgol ni ellir dibynnu ar yr eithriad hwn: mae'n rhaid cael trwydded.  

Perfformiadau a drefnir gan Ysgol 

Nid yw hyn yn cynnwys ysgolion dawns neu ddrama. Mae’n rhaid iddyn nhw wneud cais am drwyddedau yn ôl yr angen. 

Ffurflenni Gais a Chanllawiau

Mae'n ofyniad cyfreithiol i wneud cais am drwydded pan fo angen un. Gellir erlyn unrhyw unigolyn sy'n achosi neu’n peri i blentyn wneud unrhyw beth sy’n groes i’r ddeddfwriaeth drwyddedu, a pha un ai yw’r plentyn yn perfformio dan drwydded ai peidio, mae’r un ddyletswydd gofal yn berthnasol.

Gwneud cais am drwydded neu Eithriad: ​​


Dogfennau Rheoliadau a Chanllawiau:


Mae rhagor o wybodaeth ar y wefan hon:

The National Network for Child Employment and Entertainment​​​​​​​​


Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Addysg​

Cysylltu â ni


​​
Swddo Diogelu Plant
Tîm Diogelu ac Adolygu
Ystafell 342
Neuadd y Sir
Caerdydd
CF10 4UW. ​

029 2233 0876

​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd