Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Casgliadau elusennol

​​Os ydych yn trefnu casgliad o dŷ i dŷ neu ar y stryd i’ch elusen, bydd angen trwydded arnoch.


Rhaid gwneud ceisiadau o leiaf unwaith y mis cyn y dyddiad casglu a gynigir.



Sut i wneud cais


Cyn gwneud cais dylech ddarllen yr amodau casgliadau o dŷ i dŷ (52kb PDF)​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd (neu’r amodau casgliadau elusennol ar y stryd (37kb PDF)​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd.

 


Gwneud Cais Ar-lein


 

​​​​​​​

Gwneud cais drwy’r post 


 

Cwblhewch y ffurflen(ni) berthnasol a’i dychwelyd atom yn y post neu mewn person:


Trwyddedu
Cyngor Caerdydd
Neuadd y Ddinas
Caerdydd
CF10 3ND

 

Oriau agor

Dydd Llun i dydd Gwener:       10:00am – 3pm



 

  • llythyr awdurdodi gan yr elusen
  • copi o’r cyfrifon blynyddol a gyhoeddwyd
  • rhan o’u deunydd

Gallwch wneud cais am ddim.

Mae’r rheolau canlynol yn berthnasol mewn casgliadau codi arian:


  • ni chaiff pobl dan 16 oed gasglu arian. Cyfrifoldeb yr hyrwyddwr yw sicrhau na fyddant yn gwneud hyn.
  • rhaid i bob casglwr fod â bocs casglu, y mae’n rhaid ei rifo a’i gau’n ddiogel, a’i selio, fel nad oes modd ei agor heb dorri’r sêl.
  • rhaid i rifau’r bocsys casglu fod yn olynol
  • rhaid i’r holl arian a gesglir yn ystod casgliad gael ei roi ar unwaith mewn bocs casglu
  • rhaid i’r holl focsys ddangos enw’r elusen neu’r gronfa yn glir
  • rhaid agor pob bocs casgliadau ym mhresenoldeb yr hyrwyddwr a rhywun cyfrifol arall, heblaw pan fo’r bocs heb ei agor yn mynd yn syth at y banc. Os felly, caiff y banc gasglu’r bocs casgliadau
  • rhaid i’r unigolyn sy’n agor y bocs gyfri’r cynnwys a nodi swm gyda rhif y bocs casgliadau ar restr, ac mae’n rhaid iddo gadarnhau hynny
  • ni ellir gwneud unrhyw daliadau i unrhyw gasglwr, neu berson, sy’n gysylltiedig â’r casglu, boed yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, onid yw Cyngor Caerdydd yn cymeradwyo hynny yn y cais
  • os caiff trwydded ei dyfarnu, bydd pob trwyddedai (y person â’r drwydded) yn gyfrifol am gydymffurfio ag amodau’r drwydded.



Os hoffech ragor o help neu gyngor cysylltwch â ni


Cysylltu â ni

 

029 2087 1651

© 2022 Cyngor Caerdydd