Datgelodd yr Asiantaeth Trosedd Cenedlaethol bod cynnydd o 30% o ran nifer y dioddefwyr posibl masnachu pobl a chaethwasiaeth modern yng Nghymru yn 2018 gyda 251 o atgyfeiriadau’r Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol.
Mewn ymateb i’r cynnydd o ran dioddefwyr posibl masnachu pobl yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf, mae Cyngor Caerdydd wedi llofnodi datganiad yn amlygu ein hymrwymiad i stopio caethwasiaeth modern.
Cafodd y Datganiad Caethwasiaeth Modern ei lofnodi gan yr Hyrwyddwr Atal Caethwasiaeth a Chyflogaeth Foesegol a’r Prif Weithredwr ar 20 Mawrth 2019. Mae nodweddion pwysig yn cynnwys ymchwilio i gadwyni cyflenwi i sicrhau nad oes unrhyw ymglymiad â chaethwasiaeth modern, ac annog staff a chyflogeion cyflenwyr a chontractwyr i chwythu’r chwiban ar gyflogaeth anfoesegol, ecsbloetio a masnachu pobl.
Prif bwyntiau’r datganiad:
- Ein cadwyni cyflenwi – sicrhau bod cyflogaeth gyda’n holl gyflenwyr a chontractwyr yn foesegol.
- Hyfforddiant cyflogeion i godi ymwybyddiaeth ymysg cyflogeion; eu helpu i adnabod arwyddion o gaethwasiaeth modern a rhoi gwybod am unrhyw achosion.
- Dyletswydd i hysbysu'r Ysgrifennydd Gwladol am unrhyw unigolyn yr ydych yn amau sy'n dioddef o gaethwasiaeth neu fasnachu
- Yr hyn y mae’r cyngor eisoes wedi’i wneud gan gynnwys bod y corff cyhoeddus cyntaf yng Nghymru i lofnodi'r Cod Ymarfer: Cadwyni Cyflenwi Cyflogaeth Foesegol.
- Yr hyn a wnaiff y cyngor – cynllun 11 pwynt gan gynnwys adolygu amodau a thelerau caffael i sicrhau bod arferion cyflogaeth yn foesegol, lobïo am gefnogaeth well i ddioddefwyr ac ymgyrchu ar gyfer mentrau Hawliau Dynol cydweithredol yn targedu caethwasiaeth a masnachu pobl.