Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Caethwasiaeth Modern

​​​Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi ei Ddatganiad Caethwasiaeth Fodern Blynyddol ar gyfer 2023 i 2024 (1.35mb PDF)​gan nodi ein hymrwymiadau i sicrhau nad oes lle i gaethwasiaeth fodern a masnachu mewn pobl yn ein busnes a'n cadwyni cyflenwi.

Mae'r datganiad yn rhan o Bolisi Diogelu Corfforaethol trosfwaol y Cyngor ac mae'n nodi'r hyn yr ydym wedi'i gyflawni hyd yma i fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern. Mae hefyd yn nodi'r ymrwymiadau yr ydym yn eu gwneud i reoli a lleihau'r risg o gaethwasiaeth neu fasnachu mewn pobl o fewn gweithrediadau o ddydd i ddydd.

Mae ffigurau newydd gan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn dangos ein bod yn gwneud cyfraniad sylweddol tuag at fynd i’r afael â masnachu mewn pobl a chaethwasiaeth fodern.

Yn 2022, cofnododd yr NCA 536​ o ddioddefwyr posibl masnachu mewn pobl yng Nghymru, cynnydd o 57 ar y flwyddyn flaenorol, a gwnaed 58 o’r atgyfeiriadau hyn gan weithwyr Cyngor Caerdydd.

Mae'n ofynnol i holl weithwyr y Cyngor gwblhau hyfforddiant i'w helpu i adnabod arwyddion caethwasiaeth fodern a gwybod y camau i'w dilyn mewn achosion a amheuir. Mae cyfleoedd hyfforddi Ymatebwyr Cyntaf amlasiantaethol sy’n gyfeillgar i COVID hefyd ar gael i alluogi cyflogeion i gydymffurfio â’u cyfrifoldebau statudol.

Mae gan weithwyr ar draws yr awdurdod rôl allweddol i'w chwarae wrth nodi achosion o gaethwasiaeth fodern gyda chyrff eraill yn y sector cyhoeddus a phartneriaid yn y trydydd sector. Mae hyn er mwyn galluogi'r ymateb gorau posibl i ddioddefwyr posibl.
© 2022 Cyngor Caerdydd